Dynes wedi marw ar ôl cael ei saethu yn Rhondda Cynon Taf

Heddlu ar safle'r digwyddiad
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 40 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu yn Rhondda Cynon Taf nos Sul.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 yn dilyn adroddiad o achos o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau difrifol.

Mae dyn 42 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.

Fe gyrhaeddodd hofrennydd yr heddlu Tonysguboriau am 18:30 nos Sul gan gylchu'r ardal cyn dychwelyd i'w safle yn Sain Tathan.

Map o'r lleoliadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Green Park toc wedi 18:00 nos Sul

Mae pobl leol wedi mynegi eu sioc ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Sarah Jane Davies fod digwyddiadau diweddar yn yr ardal wedi achosi "pryder a braw yn y gymuned".

Mae'r heddlu yn archwilio sawl ardal wrth i'w hymholiadau barhau.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd James Morris: "Rwy'n deall y pryder y mae'r digwyddiad hwn wedi ei achosi i'r gymuned leol, ac eisiau sicrhau pobl fod 'na dîm profiadol o dditectifs eisoes ar waith er mwyn ceisio darganfod beth ddigwyddodd neithiwr."

Calum Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Calum Williams ei fod wedi clywed y gwn yn tanio

Dywedodd Calum Williams, sy'n byw yn agos iawn at y digwyddiad, ei fod wedi clywed y gwn yn tanio.

"Mae'n ofnadwy. Fi'n byw dau ddrws i lawr o ble digwyddodd e. Ro'n i'n gwneud potel i'r babi ac fe glywes i gunshot.

"Mae'n reit frawychus, yn enwedig gyda'r babi."

Disgrifiad,

Adroddiad ein gohebydd Alun Thomas o'r safle fore Llun

Dywedodd Carloyn Pugh, sy'n byw gerllaw, iddi glywed hofrennydd yr heddlu uwchben yr ardal neithiwr.

"Roedd e'n frawychus. O fewn eiliadau, roedden nhw [yr heddlu] ym mhobman," meddai.

"Doeddech chi ddim yn gwybod be' oedd yn digwydd ond roeddech chi'n gwybod bod e'n rhywbeth drwg."

Ychwanegodd: "Fi wedi bod yma ers tua 28 mlynedd a doedd pethau erioed fel hyn."

'Presenoldeb amlwg gan yr heddlu o hyd'

Mae presenoldeb amlwg gan yr heddlu o hyd yma yn ardal Green Park yn Nhonysguboriau, dros 12 awr ers yr adroddiadau cynta' bod saethu wedi bod.

Mae nifer o geir yr heddlu yma a swyddogion wedi bod ar ddyletswydd trwy'r nos.

Mae tâp yr heddlu yn cau rhan o'r ffordd sy'n arwain at nifer o fflatiau.

Wrth i bobl Tonysguboriau ddeffro a mynd i'w gwaith mae ymchwiliad Heddlu'r De i'r hyn ddigwyddodd yma neithiwr yn parhau.