'Eisiau rhoi rhywbeth nôl' i elusen sy'n helpu pobl mewn galar

Mae dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan mewn her arbennig i godi arian at elusen sy’n cefnogi teuluoedd mewn galar.

Mae Elliot Peace, 29 o Gaerfyrddin, wedi cychwyn ar ei her o redeg 12 marathon dros 12 mis er cof am ei frawd yng nghyfraith, Lewis Morgan.

Bu farw Lewis mewn gwrthdrawiad ffordd ym mis Rhagfyr 2020.

Dywed Lloyd, brawd Lewis, fod elusen 2wish wedi bod yn gefn i deulu a ffrindiau Lewis mewn cyfnodau tywyll iawn.

Mae 11 marathon yn weddill i'w cwblhau, ac mae'r teulu yn ffyddiog y gwnawn nhw godi arian ac ymwybyddiaeth am yr elusen.