Carcharu dyn am achosi marwolaeth ffrind trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Meirion Emerson RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Meirion Emerson Roberts wedi yfed alcohol cyn gyrru'n gyflym

Mae dyn wedi cael dedfryd o saith mlynedd a hanner yn y carchar ar ôl achosi marwolaeth ei ffrind trwy yrru'n beryglus.

Cafwyd Meirion Emerson Roberts, 26, o Heol Las, Rhydaman, yn euog fis diwethaf.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bryd hynny ei fod wedi yfed alcohol cyn gyrru ar gyflymder uchel yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw teithiwr yn ei gar, Lewis Morgan, 20 o Gaerfyrddin, yn y fan a'r lle ar noson 4 Rhagfyr, 2020.

Cafodd Mr Morgan ei ddisgrifio gan gyd-weithwyr fel "gweithiwr poblogaidd" a "dyn da".

Lewis MorganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiwyd Lewis Morgan gan ei deulu fel dyn ifanc "meddylgar a oedd yn hapus i helpu"

Yn ystod yr achos fis diwethaf, fe welodd rheithgor fideo Snapchat, gafodd ei anfon gan Mr Morgan, yn dangos Mr Roberts yn yfed o botel o gwrw tra'n gyrru ac yn gwrando ar gerddoriaeth uchel.

Cafodd mesurydd cyflymder y car ei ffilmio yn y fideo hefyd. Roedd hwnnw'n dangos bod y car yn teithio ar gyflymder o tua 100mya.

Disgrifiodd llygad-dyst gar Mr Roberts fel ei fod yn "hedfan" wrth basio drwy bentref Penygroes ar gyflymder uchel.

Dywedodd diffoddwr tân nad oedd ar ddyletswydd a welodd Mr Roberts yn gyrru cyn y gwrthdrawiad ei fod yn meddwl bod y dyn 26 oed yn "cael ei ddilyn gan yr heddlu" ar y pryd.

Fe welodd yr achos llys fideo o Roberts yn yfed wrth y llyw yn fuan cyn y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd yr achos llys fideo o Roberts yn yfed wrth y llyw yn fuan cyn y gwrthdrawiad

Clywodd y llys bod Mr Roberts wedi gyrru i ffwrdd o'r heol ym mhentref Blaenau ar noson 4 Rhagfyr 2020.

Gadawodd y car ochr chwith y ffordd a gwyro i'r ochr arall gan daro polyn telegraff yn gyntaf ac yna wal cyn dod i stop ar ei do.

Cafodd Mr Morgan anaf i'w ben a bu farw yn y fan a'r lle.

Yfed a gyrru ar gyflymder uchel

Dywedodd y Barnwr Christopher Vosper QC bod dedfryd Mr Roberts yn dangos mai'r "dystiolaeth a'r cyflymder roeddet [ti'n] gyrru rownd y gornel ac effaith alcohol oedd yr hyn achosodd y gwrthdrawiad".

Ychwanegodd bod Mr Roberts "21 microgram dros y terfyn cyfreithiol" ond ei fod "fwy na thebyg" wedi yfed mwy na hynny.

Mae'r dyn wedi'i wahardd rhag gyrru am chwe mlynedd a naw mis a bydd yn rhaid iddo wneud prawf gyrru estynedig cyn derbyn trwydded eto.