Cerdd Rhys Iorwerth er cof am yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Fore Mercher ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fe rannodd y Prifardd Rhys Iorwerth gerdd er cof am Dafydd Elis-Thomas, fu farw'r wythnos ddiwethaf.

Wrth siarad am gyfnod yr Arglwydd Elis-Thomas fel Llywydd y Senedd dywedodd Rhys ei fod wedi gwneud gwaith "aruthrol o roi statws i'r Cynulliad fel sefydliad yn llywio y cwch drwy ddyfroedd reit dymhestlog ar brydiau, yn y dyddiau cynnar yna o ddatganoli".

"Oedd y bleidlais ei hun yn y refferendwm yn tu hwnt o agos, ond erbyn diwadd ei gyfnod o wrth y llyw yn 2010 roedd 'na adeilad newydd sbon – y Senedd yn y Bae.

"Mi oedd 'na refferendwm arall, lle bleidleisiodd pobl Cymru yn gry' y tro hwnnw am fwy o bwerau. A dwi'n meddwl bod y diolch pennaf, heb amheuaeth, i allu Dafydd Elis-Thomas fel Llywydd.

"Llyw. Llywydd. Dyna wnaeth o. Llywio'r sefydliad yna yn y degawd cyntaf 'na."