'Sa’i wedi torri’r gyfraith a sa’i moyn dechrau'

Mae rhai ffermwyr wedi honni eu bod yn gorfod dewis rhwng y risg o lygru afonydd neu dorri'r gyfraith, cyn i waharddiad dadleuol ar wasgaru slyri ddod i rym.

Mae'r rheolau newydd yn gwahardd lledaenu slyri ar draws Cymru rhwng canol Hydref ac Ionawr.

Mae grwpiau afonydd yn dadlau bod y newid yn hanfodol er mwyn gwarchod ansawdd dŵr.

Dywedodd undeb NFU Cymru fod "pryder aruthrol" ar draws y diwydiant ar ôl i amodau gwlyb lesteirio ymdrechion i wagio storfeydd slyri cyn y dyddiad cau.

Ar fferm ddefaid a gwartheg Shadog ym Mhentrecwrt, Sir Gaerfyrddin, cwestiynu beth i wneud â’r holl slyri mae Gary Howells, sydd â’i storfa bron yn llawn.

“Ni mewn tipyn o benbleth achos does gyda ni ddim caeau sy’n addas ar hyn o bryd. O achos y tywydd a’r glaw ni ‘di cael yn ystod yr Hydref, ni’n ffili mynd mas â’r slyri,” meddai.

Dywedodd: “Sai’n moyn bod y slyri ‘ma yn rhedeg off i’r afon. Wrth bo' fi’n rhoi slyri, rwy’ falle yn mynd i pollute’o yr afon.

"Neu, ydw i moyn torri’r gyfraith ac aros i dywydd sych ddod yn y gaeaf i fynd mas â’r slyri? Sa’i wedi torri’r gyfraith a sa’i wedi polluto’r afon erioed a sai’n moyn dechrau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyfnodau caeëdig mewn lle er mwyn atal colledion cynyddol o nitrogen a ffosfforws i’r dŵr, sy'n digwydd pan fydd tail, gan gynnwys slyri, yn cael ei wasgaru yn ystod yr amseroedd hyn.

"Fe wnaethom ymgysylltu â chontractwyr amaethyddol wrth ddatblygu'r rheoliadau a bydd unrhyw faterion yn cael eu hystyried ymhellach fel rhan o'r adolygiad pedair blynedd o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.

"Gall ffermwyr sy'n cael eu heffeithio ofyn am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gamau y gallant eu cymryd i leihau'r risg o lygredd."