'Gorfod dewis rhwng y risg o lygru afonydd neu dorri'r gyfraith'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ffermwyr wedi honni eu bod yn gorfod dewis rhwng y risg o lygru afonydd neu dorri'r gyfraith, cyn i waharddiad dadleuol ar wasgaru slyri ddod i rym.
Mae'r rheolau newydd yn gwahardd lledaenu slyri ar draws Cymru rhwng canol Hydref a Ionawr - newid mae grwpiau afonydd yn dadlau sy'n hanfodol er mwyn gwarchod ansawdd dŵr.
Dywedodd undeb NFU Cymru fod "pryder aruthrol" ar draws y diwydiant ar ôl i amodau gwlyb lesteirio ymdrechion i wagio storfeydd slyri cyn y dyddiad cau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gall ffermwyr sy'n cael eu heffeithio ofyn am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn y Senedd nos Fercher, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca- Davies gydnabod “yr heriau mae ffermydd wedi eu hwynebu ers i’r rheoliadau gael eu cyflwyno".
Cyhoeddodd y byddai elfen o hyblygrwydd o ran plismona’r gwaharddiad eleni, ond "dim ond lle fydd ffermwyr yn medru profi eu bod yn cymryd camau gwirioneddol i gydymffurfio â’r rheolau".
Ar fferm ddefaid a gwartheg Shadog ym Mhentrecwrt, Sir Gaerfyrddin, cwestiynu beth i'w wneud â’r holl slyri y mae Gary Howells, sydd â’i storfa bron yn llawn.
“Ni mewn tipyn o benbleth achos does gyda ni ddim caeau sy’n addas ar hyn o bryd. O achos y tywydd a’r glaw ni ‘di cael yn ystod yr Hydref, ni’n ffili mynd mas â’r slyri” meddai.
Wrth ddisgrifio’i anallu i wasgaru’r slyri’n gyfrifol, dywedodd: “Sai’n moyn bod y slyri ‘ma yn rhedeg off i’r afon. Wrth bo' fi’n rhoi slyri, rwy’ falle yn mynd i pollute’o yr afon.
"Neu, ydw i moyn torri’r gyfraith ac aros i dywydd sych ddod yn y gaeaf i fynd mas â’r slyri? Sa’i wedi torri’r gyfraith a sa’i wedi polluto’r afon erioed a sai’n moyn dechrau.
"Ma’ eisiau i’r Llywodraeth ‘ma gael agwedd mwy rhesymol, mwy o common sense tuag at hyn. Ni’n fodlon gweithio gyda’r Llywodraeth ond mae’n rhaid cael give and take o’r ddwy ochr.
"Gallwn ni byth a gweithio i galendr, pan fo byd natur, does ‘na ddim calendr i gael.”
Beth yw’r rheoliadau newydd?
Rheoli defnydd ffermwyr o slyri a gwrtaith er mwyn diogelu ansawdd dŵr mewn afonydd yw'r nod.
Er i'r cyfyngiadau ddod i rym yn 2021, maen nhw wedi bod yn cael eu cyflwyno'n raddol.
Felly eleni mae un o'r agweddau mwyaf dadleuol yn cael ei gweithredu am y tro cynta' - sef gwaharddiad ar wasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf.
I'r rhan fwyaf o ffermwyr, mae hyn yn golygu na allan nhw wasgaru slyri rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr.
Yn ogystal, mae'n rhaid i ffermwyr allu profi bod digon o le ganddyn nhw i storio slyri am bum mis.
Dywedodd Huw Evans, contractwr amaethyddol o Bencader bod gwahardd gwasgaru slyri rhwng canol Hydref ac Ionawr yn mynd i gael "effaith fawr" ar ei fusnes.
“Ma’ naw o fois yn gweithio ‘da fi, a bydd chwech ohonyn nhw, bydd ddim gwaith ‘da nhw… falle bydd rhaid i’r busnes feni os na gewn ni staff.”
Fe alwodd ar Lywodraeth Cymru am eglurder ac arweiniad i osgoi "annibendod" dros y gaeaf.
“Os nad ydw i’n mynd i gael y pit hyn yn wag, bydd hwn yn mynd dros y top mewn pythefnos. Beth sy’n digwydd wedyn?
"Ydyn nhw’n mynd i adael i ni bwmpo fe neu ydy e’n mynd i fynd i’r afon? Beth maen nhw’n moyn ‘neud?”
Rhybuddiodd Martin Griffiths, sy’n Gadeirydd ar Grŵp Adolygu Ansawdd Dŵr, NFU Cymru hefyd bod "ffermio i galendr" yn mynd i achosi problemau.
“Mae 15 Hydref yn ddyddiad,” meddai, "Galle hi fod yn wlyb heddiw, yn wlyb fory, ac yna ar yr 20fed, haul ac yn hindda a’r ddaear yn fendigedig ar gyfer hau. Ble mae’r egwyddor yn hynny?”
Honnodd fod rhai wedi wynebu oedi cyn cael caniatâd cynllunio ar gyfer storfeydd slyri newydd.
Dywedodd mai dim ond yn ystod y misoedd diwethaf yr oedd cyllid grant - gwerth £20m - hefyd wedi dod ar gael.
“Yn anffodus, mae e wedi bod mor hir yn dod i rym, bydd gyda rhai ddim dewis nawr ond gweithio gyda beth sydd gyda nhw am y cyfnod clo cyntaf yma, sy’n peri gofid ofnadwy iddyn nhw gyd fel unigolion,” meddai.
Yn ôl Andrew Thomas o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, mae "mess difrifol" yn yr afonydd, ac mae’n rhaid gweithredu.
“Fi’n deall ma’ problems wedi bod, mae wedi bod yn wlyb, fi’n gwybod na ond o’dd y regulations ‘ma fod dod mewn yn 2021,” meddai.
“O’dd regulation ‘na cyn hynny. Cyn 2021 ro’dd rhaid cael pedwar mis o storage, nawr mae e lan i bum mis. Mae grants wedi bod i helpu. Ni’n cico’r bêl lawr y rhewl. Ma’ problem ‘da ni a ‘ma eisiau sorto fe mas.
"Ni wedi cael digon, ma’r afonydd wedi cael digon, mae natur wedi cael digon.”
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau.
Mewn datganiad, fe ddywedon nhw: “Mae gennym ddau dîm penodol o swyddogion sy’n gyfrifol am fesur cydymffurfiaeth â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol Llywodraeth Cymru.
"Maent wedi cynnal dros 500 o archwiliadau fferm ers Tachwedd 2023, gan ddefnyddio dull cadarnhaol, wedi’i reoli’n sensitif, o weithio gyda ffermwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
“Rydym yn cydnabod yr her a wynebir gan ffermwyr o ran y cyfnodau caeëdig. Rydym yn cynghori ffermwyr i ddefnyddio eu slyri cyn cyfnod y gaeaf a chymryd camau priodol i ddileu dŵr glân diangen sy’n mynd i mewn i’r storfa er mwyn cynyddu’r capasiti storio.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n adeiladol gyda'r holl ffermydd a arolygir i'w helpu i gydymffurfio o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyfnodau caeedig mewn lle er mwyn atal colledion cynyddol o nitrogen a ffosfforws i’r dŵr, sy'n digwydd pan fydd tail, gan gynnwys slyri, yn cael ei wasgaru yn ystod yr amseroedd hyn.
"Mae'r rheoliadau'n helpu i gefnogi busnesau contractio amaethyddol a oedd gynt dan anfantais gan y rhai oedd yn barod i ddarparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag achosion llygredd, megis defnyddio maetholion i lanio ar adegau amhriodol ac yn ystod amodau tywydd a phridd anaddas.
"Fe wnaethom ymgysylltu â chontractwyr amaethyddol wrth ddatblygu'r rheoliadau a bydd unrhyw faterion yn cael eu hystyried ymhellach fel rhan o'r adolygiad pedair blynedd o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.
"Gall ffermwyr sy'n cael eu heffeithio ofyn am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gamau y gallant eu cymryd i leihau'r risg o lygredd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref
- Cyhoeddwyd2 Hydref
- Cyhoeddwyd2 Hydref