'Mae llyfrgelloedd mor werthfawr i'n cymunedau ni'
Mae yna bryder nad oes dealltwriaeth o "werth a phwysigrwydd" llyfrgelloedd mewn cymunedau lleol, wrth i ffigyrau ddangos fod degau wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.
Dangosa gwaith ymchwil gan y BBC bod cynghorau ar draws Cymru a Lloegr wedi rhoi'r gorau i redeg 183 o lyfrgelloedd ers 2016.
Mae'r rhan fwyaf wedi cau o ganlyniad, a rhai eraill bellach yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.
Fe gaeodd 13 o lyfrgelloedd a llyfrgelloedd teithiol yng Nghymru rhwng 2016 a 2023, yn ôl y ffigyrau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu" i warchod gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Francesca Sciarrillo wedi gweithio mewn llyfrgelloedd a bellach yn swyddog hyrwyddo darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
"Mae o'n torri calon braidd i ddweud y gwir... mae'n drist iawn i feddwl bod y bobl sy'n 'neud y penderfyniadau yma ddim yn gweld gwerth yn y llyfrgelloedd, ond ma' nhw'n wasanaeth anhygoel yn ein cymunedau ni.
"Ers i mi fod yn blentyn bach dwi wastad wedi gweld llyfrgelloedd yn rhyfeddol - llefydd llawn hud.
"Pan o'n i'n ieuengach o'n i'n gwirfoddoli mewn llyfrgell... ac wedyn ar ôl y brifysgol fues i'n gweithio gyda gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint... a rŵan dwi'n gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, felly dwi'n dal i weithio gyda'r gwasanaeth llyfrgelloedd.
"Mae o wastad wedi bod yna, wedi siapio fy ngyrfa i, a dwi wastad wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant llyfrau.
"Mae llyfrgelloedd wedi bod yn hollol hanfodol i fy nhaith i, a dwi mor, mor ddiolchgar am hynny."