'Angen gwarchod llyfrgelloedd gwerthfawr, llawn hud'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder nad yw'r awdurdodau yn deall "gwerth a phwysigrwydd" llyfrgelloedd mewn cymunedau lleol, wrth i ffigyrau ddangos fod degau wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.
Dangosa gwaith ymchwil gan y BBC bod cynghorau ar draws Cymru a Lloegr wedi rhoi'r gorau i redeg 183 o lyfrgelloedd ers 2016.
Mae'r rhan fwyaf wedi cau o ganlyniad, a rhai eraill bellach yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.
Fe gaeodd 13 o lyfrgelloedd a llyfrgelloedd teithiol yng Nghymru rhwng 2016 a 2023, yn ôl y ffigyrau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu" i warchod gwasanaethau cyhoeddus.
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
Yn ogystal, mae 900 o lyfrgelloedd wedi torri ar eu horiau agor dros y saith mlynedd diwethaf, tra bod ardaloedd difreintiedig tua phedair gwaith yn fwy tebygol o golli eu llyfrgell leol nag ardaloedd cyfoethocach.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn cydnabod y "pwysau" ar wasanaethau llyfrgelloedd a'u bod "wedi ymroi i ddod â sefydlogrwydd yn ôl i gynghorau lleol".
'Torri calon'
Mae Francesca Sciarrillo wedi gweithio mewn llyfrgelloedd a bellach yn swyddog hyrwyddo darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
"Mae o'n torri calon braidd i ddweud y gwir... mae'n drist iawn i feddwl bod y bobl sy'n 'neud y penderfyniadau yma ddim yn gweld gwerth yn y llyfrgelloedd, ond ma' nhw'n wasanaeth anhygoel yn ein cymunedau ni.
"Ers i mi fod yn blentyn bach dwi wastad wedi gweld llyfrgelloedd yn rhyfeddol - llefydd llawn hud.
"Pan o'n i'n ieuengach o'n i'n gwirfoddoli mewn llyfrgell... ac wedyn ar ôl y brifysgol fues i'n gweithio gyda gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint... a rŵan dwi'n gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, felly dwi'n dal i weithio gyda'r gwasanaeth llyfrgelloedd.
"Mae o wastad wedi bod yna, wedi siapio fy ngyrfa i, a dwi wastad wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant llyfrau.
"Mae llyfrgelloedd wedi bod yn hollol hanfodol i fy nhaith i, a dwi mor, mor ddiolchgar am hynny."
'Neb yn gofyn i chi wario ceiniog'
Ychwanegodd Ms Sciarrillo bod llyfrgelloedd yn ganolfannau hollbwysig o fewn cymunedau lleol, ac yn llefydd sy'n cynnig llawer mwy na llyfrau yn unig.
"I fi, mynd i'r llyfrgell ydy un o'r profiadau gorau dwi'n credu ti'n gallu 'neud yn y gymuned, ac un o'r unig lefydd lle 'da chi'n gallu cerdded mewn a does neb yn gofyn i chi wario ceiniog.
"Ma' cymaint o bethau mae llyfrgelloedd yn gallu ei gynnig i'r gymuned - o sesiynau rhigwm i blant bach, i ddefnyddio cyfrifiaduron neu, er enghraifft, yn Sir y Fflint oedden ni'n rhedeg gwasanaeth dewis a chasglu... ac yn ystod y cyfnod clo oedden ni'n rhedeg gwasanaeth lle oedde' ni'n ffonio pobl i gael sgwrs.
"Mae'n rywle mae'r gymuned yn gallu mynd i gael cymorth o bob math."
Un arall sydd yn ystyried llyfrgelloedd yn fannau "hynod bwysig" o fewn eu cymunedau yw'r awdur, Bethan Gwanas.
"Fel o'n i'n mynd yn hŷn, 'swn i'n dweud bo' fi'n mynd o leiaf unwaith yr wythnos i lyfrgell Dolgellau," meddai ar Dros Frecwast.
"Ma' 'na gymaint wedi cael eu cau a'u cwtogi, ond ma' nhw 'di bod wrthi'n brysur yn meddwl am ffyrdd i ddenu pobl - ma'n debycach i pick 'n mix yn Woolworths ers talwm!
"Mae 'na silffoedd lle mae'r llyfrau i gyd yr un math, rhai eraill lle maen nhw gyda'r un lliw - pethau bach difyr i ddenu'r llygaid."
'Lle i enaid gael llonydd, ond eto'n gymdeithasol'
Mae'r llyfrgelloedd yn gymorth mawr i awduron a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru hefyd, meddai Ms Gwanas.
"Mae nosweithiau awduron yn hynod bwysig, maen nhw'n talu ni wrth gwrs, ond 'da chi hefyd yn cwrdd â phobl newydd.
"Mae pobl yn dweud wrthych chi beth maen nhw yn ei fwynhau, be' dydyn nhw ddim... mae'r cyfan yn helpu ni wella'r sefyllfa llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r Saesneg wrth gwrs."
Yn ogystal â'r llyfrau a'r darllen, mae Ms Gwanas yn hoff o'r elfen gymdeithasol yn y llyfrgelloedd.
"Y sgyrsiau efo'r staff a'r bobl eraill yn y llyfrgell - 'dwi 'di mwynhau hwn, ella nei di fwynhau hwn'.
"A rhywbeth pwysig arall i mi ydi'r jig-sos, ma' 'na glybiau gwyddbwyll a chlybiau celf hefyd - ond ma' 'na wastad jig-so ar waith yn llyfrgell Dolgellau, a ma' 'na rywbeth hyfryd mewn cydweithio efo rhywun, a 'da chi'n gadael y llyfrgell yn teimlo yn well.
"Ma'n le i enaid gael llonydd, ond eto'n gymdeithasol hefyd. Dwi'n gwybod bo' 'na bobl allan yna sydd erioed 'di bod, ond beth am roi cynnig arni?"
Pwysau ariannol 'sylweddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er y pwysau sylweddol ar ein cyllidebau ar hyn o bryd, ry'n ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod gwasanaethau lleol gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni."
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais am ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod eisiau dod a sefydlogrwydd yn ôl i lywodraeth leol, drwy alluogi i gynghorau osod cyllidebau dros gyfnodau hirach.
"Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig o fewn cymunedau drwy ddarparu gofod i bobl o bob cefndir i gael mynediad at lyfrau, i weithio ac i ddysgu.
"Ry'n ni'n cydnabod y pwysau sy'n eu hwynebu, ac rydym wedi ymroi i ddod a sefydlogrwydd nol i gynghorau lleol fel bod modd i'r gwasanaethau hyn gyflawni anghenion eu cymunedau."