Gwyliwch rai o uchafbwyntiau capten newydd Cymru

Mae Angharad James wedi cael ei henwi'n gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru.

Daw'r penderfyniad i benodi'r chwaraewr canol cae ar ôl i Sophie Ingle ildio'r awenau fel capten yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r prif hyfforddwr Rhian Wilkinson wedi cynnig y swydd i James, sydd wedi ennill 122 cap dros Gymru.

Nid dyma'r tro cyntaf iddi arwain ei gwlad, gan iddi fod yn gapten ar dri achlysur yn y gorffennol - gan gynnwys ymgyrch ragbrofol UEFA Euro 2025.

Gwyliwch rai o'i huchafbwyntiau yng nghrys coch Cymru uchod.