Enwi Angharad James yn gapten Cymru

Disgrifiad,

Gwyliwch rai o uchafbwyntiau Angharad James yng nghrys coch Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Angharad James wedi cael ei henwi'n gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru.

Daw'r penderfyniad i benodi'r chwaraewr canol cae, ar ôl i Sophie Ingle roi'r gorau iddi fel capten yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r prif hyfforddwr Rhian Wilkinson wedi cynnig y swydd i James, sydd wedi ennill 122 cap dros Gymru.

Nid dyma'r tro cyntaf iddi arwain ei gwlad, gan iddi fod yn gapten ar dri achlysur yn y gorffennol, gan gynnwys ymgyrch ragbrofol UEFA Euro 2025.

Yr amddiffynnwr Hayley Ladd a’r canolwr Ceri Holland sydd wedi cael eu henwi’n is-gapteiniaid.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad James mai "cynrychioli eich gwlad yw’r anrhydedd mwyaf gall chwaraewr ei gael"

Dywedodd James ei bod wrth ei bodd mai hi yw capten ei gwlad.

Meddai: "Cynrychioli eich gwlad yw’r anrhydedd mwyaf gall chwaraewr ei gael, ac mae cael fy mhenodi’n gapten yn foment hynod falch i mi a fy nheulu.

"Mae Sophie Ingle yn arweinydd anhygoel, ac rydw i wedi dysgu cymaint o’i hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel capten dros y naw mlynedd diwethaf.

"Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, ac mae’n anrhydedd mawr dilyn yn ôl ei thraed a’r capteiniaid a ddaeth o’i blaen hi.

"Rydw i wedi siarad am y balchder o fod yn gapten pan rydw i wedi cael y cyfleoedd o’r blaen, ond rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o arweinwyr yn y grŵp hwn.

"Mae cael arweinwyr ar lefelau gwahanol yn y garfan yn hanfodol, a gyda’n gilydd, byddwn yn gwthio tuag at ein nod cyfunol o gyrraedd twrnamaint mawr am y tro gyntaf."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wilkinson yn brif hyfforddwr ar Gymru ers mis Chwefror 2024

Ychwanegodd y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson: "Mae Angharad wedi bod yn berfformiwr cyson i’r tîm hwn am flynyddoedd, ac mae hynny’n cael ei grynhoi gan nifer y gemau y mae wedi’u chwarae.

"Mae ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gwlad yn amlwg ac er nad hi o reidrwydd yw’r arweinydd mwyaf lleisiol, mae hi bob amser yn mynnu ac yn cynnig cyngor i’w chyd-chwaraewyr pan fydd hi’n camu ar y cae.

"Rwy’n caru’r ffordd mae hi’n cofleidio’r chwaraewyr iau yn y garfan gyda’i harweinyddiaeth hefyd, sy’n bwysig ar gyfer dyfodol y tîm a’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd."

Pynciau cysylltiedig