Capten Cymru yn 'siomedig' gyda’r perfformiad yn erbyn Slofacia
Mae capten Cymru Angharad James yn dweud ei bod hi’n “siomedig” gyda’r perfformiad yn erbyn Slofacia yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Fe gollodd Cymru 2-1, ond fe ychwanegodd Angharad ei bod hi’n hyderus y bydden nhw’n perfformio’n well yn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Mae gôl hwyr Ffion Morgan yn golygu fod gobeithion Cymru o gyrraedd y rownd derfynol dal yn fyw.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Fawrth yng Nghaerdydd lle bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae'n erbyn un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.