Cymru yn colli 2-1 yn erbyn Slofacia yn y gemau ail-gyfle
- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Slofacia o 2-1 yn eu gêm yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Wedi hanner cyntaf di-sgôr, y tîm cartref aeth ar y blaen yn dilyn ergyd gampus gan Martina Surnovska o du allan i’r cwrt cosbi wedi 49 munud o chwarae.
Aeth Slofacia ymhellach ar y blaen deng munud yn hwyrach wrth i Maria Mikolajova daro’r bêl i’r rhwyd o 25 llath yn dilyn trosedd gan gapten Cymru, Angharad James.
Wedi i’r eilydd profiadol, Jess Fishlock, ddod i’r cae, dechreuodd y Cymry i edrych yn fwy bygythiol gan greu sawl cyfle.
Gyda munudau’n unig yn weddill o’r gêm, sgoriodd Ffion Morgan gan roi llygedyn o obaith i’r Cymry wrth i’r ddau dîm baratoi ar gyfer yr ail gymal nos Fawrth nesaf yng Nghaerdydd.
Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae'n erbyn un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024