Nant Gwrtheyrn 'wedi newid er mwyn diogelu staff'

Mae prif weithredwr newydd Nant Gwrtheyrn yn dweud bod newidiadau wedi cael eu gwneud er mwyn "diogelu'r staff, gweithwyr a bwrdd" y ganolfan iaith Gymraeg.

Yn gynharach eleni fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar ddatgelu honiadau o ddiwylliant "afiach a gwenwynig" yno dros gyfnod o ddegawd.

Mae Siwan Tomos, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, wedi bod wrth ei gwaith ers mis bellach.

Elen Wyn aeth i Ben Llŷn ar ran rhaglen Newyddion S4C i glywed ei gobeithion.