Pum munud gyda... Siwan Tomos

Siwan TomosFfynhonnell y llun, Nant Gwrtheyrn
  • Cyhoeddwyd

Yn gynharach eleni, derbyniodd Siwan Tomos swydd Prif Weithredwr Nant Gwrtheyrn. Mae Siwan, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, yn dechrau'r swydd yr wythnos hon.

Cafodd Cymru Fyw gyfle i sgwrsio gyda hi cyn iddi fwrw iddi yn arwain tîm y ganolfan iaith ym Mhen Llŷn.

Mae Nant Gwrtheyrn yn lle trawiadol iawn, ac yn odidog ar ddiwrnod braf. Wyt ti'n cofio beth oedd dy argraff di o'r Nant pan es di yno am y tro cyntaf?

Mi ddes i i'r Nant am y tro cyntaf yn 2013. Roedd Aled (fy ngŵr) yn byw yn Llithfaen ar y pryd, ac roedd hynny yn gwneud Caffi Meinir yn atyniad cyfleus i lenwi ein bolie' ar ôl ambell noson hwyr yn nhafarn y Fic.

Dw i'n cofio bod yr olygfa wrth ddod i lawr wedi gwneud i fi golli fy ngwynt a bod y ffordd droellog wedi codi ofn arna i. Cafodd y lle argraff arna'i yn syth.

Ma' rhyw heddwch arbennig yma rhwng y môr a'r mynydd ac yng nghwmni pobl sydd wirioneddol eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu.

Dw i'n cofio dweud ar yr ymweliad cyntaf hwnnw, "Bydden i'n lico gweithio fan hyn rhyw ddiwrnod!"

Nant GwrtheyrnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nant Gwytheyrn wedi ei leoli ger y môr wrth droed Yr Eifl

Bydd cannoedd o bobl yn dod i'r Nant ar gyrsiau dysgu Cymraeg, pa mor ddylanwadol ti'n meddwl ydi awyrgylch a harddwch y ganolfan i bobl o ran atgyfnerthu'r teimlad o Gymreictod neu berthyn?

Mae safle'r Nant yn chwarae rhan yr un mor bwysig â'r tiwtor yn llwyddiant y dysgwyr sy'n dod yma. Mae'r tawelwch a'r golygfeydd yn creu amgylchedd ddysgu ddelfrydol gan fod y dysgwyr yn medru ymlacio yn llwyr i ffwrdd wrth brysurdeb bywyd bob dydd.

Mae cael cymaint o le i ddosbarthiadau grwydro, i ddod i adnabod geirfa a phatrymau ieithyddol sy'n tarddu o'r hyn maen nhw'n ei weld a'i deimlo o'u cwmpas yn werthfawr ac yn allweddol i'r profiad dysgu yma yn y Nant.

Mae rhywbeth arbennig hefyd am ddarganfod y Gymraeg wrth ddilyn ôl traed yr amaethwyr a chwarelwyr fu yma o'n blaenau. Caiff pob dysgwr gyfle i ddysgu am hanes y cwm a hanes sefydlu'r Nant fel y mae'n bodoli heddiw.

Mae'n rhoi'r teimlad o berthyn i'r hyn a fu yma gynt, sy'n help iddynt berchnogi a defnyddio eu hiaith newydd wrth iddyn nhw hefyd ddod yn rhan o hanes y cwm yma.

Cefaist dy fagu yn ne orllewin Cymru, pa mor ddylanwadol oedd dy fagwraeth o ran sut mae dy yrfa wedi datblygu?

'Dw i'n ffodus iawn fy mod wedi cael fy magu mewn cornel fach arbennig iawn o Gymru. Mae fy rhieni wastad wedi bod yn esiamplau gwych i fi a fy chwaer o ran bod yn weithgar yn eu cymuned a hynny bob amser yn y Gymraeg.

Mae'r ddau ohonynt wedi ymddeol erbyn hyn ond yn parhau i fod yn brysur iawn gyda phob math o weithgareddau cymunedol. Mae cymuned arbennig o ddysgwyr Cymraeg yn Llandudoch, ac mae fy rhieni wrth eu boddau yn treulio amser gyda nhw ac yn eu cefnogi.

Mae gogledd Sir Benfro yn ferw o brofiadau gwych i bobl ifanc o ran y celfyddydau a diwylliant, a hynny i gyd, yn fy mhrofiad i, drwy gyfrwng y Gymraeg. Arweiniodd fy addysg yn Ysgol Gynradd Llandudoch, Ysgol y Preseli a'r holl gyfleoedd drwy Aelwyd Crymych a nifer o gymdeithasau eraill at fy nymuniad i weithio dros y Gymraeg ac i hyrwyddo'r Gymraeg yn benodol.

Yn dilyn swyddi gyda'r Urdd a 10 mlynedd hapus iawn gydag Iaith: y ganolfan cynllunio iaith, dw i'n teimlo fy mod wedi cyrraedd cornel fach arall arbennig iawn o Gymru yma ym Mhen Llŷn gyda fy nheulu bach.

Er bod hiraeth arna'i yn aml, mae fy nghymuned fabwysiedig yma yn Llŷn yn ail agos iawn ac yn rhyfeddol o debyg mewn sawl ffordd. Mae bod yma rhwng y môr a'r mynydd bob dydd yn y Nant yn fy atgoffa yn ddyddiol o Sir Benfro a'r fagwraeth arbennig ges i yno.

Mae'r Nant yn gartref i chwedl drasig a rhamantus Rhys a Meinir, a bellach yn lleoliad poblogaidd i briodi. Beth yw'r peth mwyaf rhamantus ti wedi'i wneud neu mae rhywun wedi'i wneud i ti?

Does dim llawer o amser am ramant yn ein tŷ ni erbyn hyn gan fod Gwilym sy'n chwech a Deio sy'n bedair yn cael llawer o'n sylw ni.

Ond mi gaethon ni benwythnos i'r brenin yn Llundain i ddathlu pen-blwydd Aled yn 40 yn ddiweddar. Ei anrheg oedd cyfraniadau gan y teulu a fy amser (a fy amynedd) i i fynd i siopa guitars ar Denmark Street. Roedd yn ei elfen – ac er nad ydw i'n deall unrhyw beth am guitars, roedd e'n ddiwrnod arbennig iawn. I goroni'r penblwydd cawson ni noson i'w chofio yn gwylio Abba Voyage – os gewch chi gyfle, ewch ar eich union!

Abba VoyageFfynhonnell y llun, Abba Voyage
Disgrifiad o’r llun,

Abba Voyage

Pa fath o gerddoriaeth sy'n dy ysbrydoli di?

Dw i'n hoffi pob math o gerddoriaeth ac mae chwaeth a diddordeb cerddorol y bobl o fy nghwmpas yn dueddol o ddylanwadu yn eitha' trwm arna'i.

Ond dw i wrth fy modd yn mynd i wrando ar gerddoriaeth byw a does dim llawer o wahaniaeth gyda fi beth yw'r gerddoriaeth os oes criw ohonom yn dod at ein gilydd i'w fwynhau.

Mae mynd i gigs, gwyliau cerddorol a theithio i gyngherddau amrywiol wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ers i mi fod yn ddigon hen i wneud a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau da ac hyd yn oed wedi dod o hyd i ŵr wrth wneud hynny.

Ry'n ni'n edrych ymlaen at groesawu amryw o gerddorion i'r Nant i gyfres o gigs yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Cadwch eich llygaid yn agored am gyfleoedd i ddod yma i'w mwynhau. Gig â golygfa – cyfuniad da!

Beth wyt ti'n edrych ymlaen amdano fwyaf yn dy swydd newydd?

Mi fydd hi'n braf medru gweithio ar draws y safle gydag ystod eang o unigolion sy'n dod â phrofiadau a sgiliau gwahanol i'r gwaith. Er fy mod i yma ers dwy flynedd a hanner yn yr adran addysg - dw i'n siŵr y byddaf yn dysgu llawer am feysydd newydd ac mae hynny yn gyffrous iawn.

Yn bennaf, 'dw i'n edrych ymlaen at weithredu syniadau fydd yn cyfoethogi profiadau'r rheiny sy'n dod yma fel ymwelwyr a'r criw arbennig sy'n gweithio yma. Dw i'n teimlo'n freintiedig iawn.

Pynciau cysylltiedig