Griffiths, 17, yn dysgu o chwarae yn yr un tîm â sêr pêl-droed Cymru
Mae pêl-droediwr ifanc o ogledd Cymru a sgoriodd ddwywaith ar ei hymddangosiad cyntaf i Manchester United yn targedu lle yng ngharfan Cymru yn Euro 2025.
Yn 17 oed, mae Mared Griffiths o Drawsfynydd eisoes wedi bod yn rhan o garfan Cymru ond heb ennill cap rhyngwladol - eto.
Yn gynharach eleni, llwyddodd Cymru i sicrhau eu lle yn yr Ewros yn Y Swistir - y tro cyntaf i'r tîm gyrraedd pencampwriaeth o'r fath.
A hithau ond yn ei harddegau, dywedodd ei fod yn brofiad "nuts" i fod yn yr un carfan â rhai o sêr y gamp, fel Jess Fishlock.
"Mae'n quite nuts bo' fi yn chwarae yn yr un tîm â nhw, ond mae'n beth da achos dwi'n dysgu loads ganddyn nhw."