Seren newydd Manchester United yn targedu Euro 2025

Fe allai Mared Griffiths ennill ei chap cyntaf dros Gymru nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr ifanc o ogledd Cymru a sgoriodd ddwywaith ar ei hymddangosiad cyntaf i Manchester United yn targedu lle yng ngharfan Cymru yn Euro 2025.
Yn 17 oed, mae Mared Griffiths o Drawsfynydd eisoes wedi bod yn rhan o garfan Cymru ond heb ennill cap rhyngwladol - eto.
Yn gynharach eleni, llwyddodd Cymru i sicrhau eu lle yn yr Ewros yn Y Swistir - y tro cyntaf i'r tîm gyrraedd pencampwriaeth o'r fath.
Sgoriodd Mared ddwy gôl i United yn erbyn Wolves yng Nghwpan yr FA ar 8 Chwefror - ar ôl dod ymlaen fel eilydd hwyr.
'Bach o sioc'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd nad oedd wedi disgwyl cael y cyfle i ddod ymlaen yn y gêm gwpan honno.
"Ro'n ni jyst yn eistedd ar y bench yn watchad y gêm fel bob cyfle arall dwi wedi cael i eistedd ar y bench, a 'naeth y coaches ddod fyny ata i a dweud 'ti'n mynd on ar y left wing' ac oedd o yn bach o sioc ar y dechrau," meddai.
"Pan o'n nhw'n siarad, yn deud 'tha fi beth o'n ni angen ei wneud, o'n i jyst bach yn confused, dal yn trio digesto beth oedden nhw newydd ddeud 'tha fi.
"Ond gan bo' gyda fi'r support… 'naeth o 'neud yr opportunity lot mwy chilled ac o'n i'n teimlo'n gyfforddus ar y cae," ychwanegodd.
"Cyfle o'n i angen a ti'n gorfod cymryd y cyfle ti'n cael weithia'."

Dywed Mared Griffiths ei fod yn brofiad "nuts" i fod yn yr un carfan â rhai o sêr y gamp
Gyda thîm Cymru yn wynebu'r Eidal yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, gallai hwn fod yn gyfle i Mared ennill ei chap cyntaf dros ei gwlad.
Dywedodd fod ei theulu wedi bod yn gefnogol iawn o'i thaith fel chwaraewr, ac y bydd ambell un o Drawsfynydd yn dod i weld y gêm yn yr Eidal.
"Ma' Dad a Gareth [hyfforddwr Trawsfynydd] wedi bod yn bob gêm ers i fi fod yn y tîm, felly dwi jyst yn gobeithio 'mod i'n neud digon yn y trainings 'ŵan er mwyn cael y cyfle i ddod on i ddangos iddyn nhw, a'r gefnogaeth maen nhw'n rhoi i fi."
A hithau ond yn ei harddegau, dywedodd ei fod yn brofiad "nuts" i fod yn yr un carfan â rhai o sêr y gamp.
Dywedodd: "Mae'n quite nuts bo' fi yn chwarae yn yr un tîm â nhw, ond mae'n beth da achos dwi'n dysgu loads ganddyn nhw."
Mared Griffiths yn siarad gyda Carl Roberts o BBC Cymru
Dywedodd ei bod yn teimlo iddi gael "digon o gyfleoedd pan o'n i'n ifanc" a bod y cyfnod cynnar hwnnw yn Nhrawsfynydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
"Gan fod y rhieni mor agos yn Traws oedd pawb yn 'neud beth bynnag oedden nhw'n gallu i 'neud hyn i ddigwydd i ni y plantos," meddai.
Wrth edrych ymlaen at yr haf cyffrous sy'n wynebu Cymru, dywed Mared fod y gystadleuaeth am lefydd yn "massive" wrth i rai o'r chwaraewyr profiadol - fel y cyn-gapten Sophie Ingle - ddychwelyd o anaf.
"Felly dwi angen cadw ar dop y gêm 'ŵan a 'neud yn siŵr mod i'n 'neud pob dim, off y cae, ar y cae, restio, nutrition, pob dim angen bod up to date - 'neud pob dim dwi'n gallu i roi y chance 'na i fi fod ar y tîm."
Bydd tîm Cymru yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn eu grŵp yn Euro 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024