Uchafbwyntiau Cymru yn erbyn Slofacia
Colli fu hanes tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Slofacia o 2-1 yn eu gêm yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Wedi hanner cyntaf ddi-sgôr, y tîm cartref aeth ar y blaen yn dilyn ergyd gampus gan Martina Surnovska o'r tu allan i’r cwrt cosbi wedi 49 munud o chwarae.
Aeth Slofacia ymhellach ar y blaen ddeng munud yn ddiweddarach wrth i Maria Mikolajova daro’r bêl i’r rhwyd o 25 llath yn dilyn trosedd gan gapten Cymru, Angharad James.
Wedi i’r eilydd profiadol, Jess Fishlock ddod i’r cae, dechreuodd y Cymry edrych yn fwy bygythiol, gan greu sawl cyfle o flaen y gôl.
Gyda munudau’n unig yn weddill o’r gêm, sgoriodd Ffion Morgan gan roi llygedyn o obaith i’r Cymry wrth i’r ddau dîm baratoi ar gyfer yr ail gymal nos Fawrth nesaf yng Nghaerdydd.
Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae'n erbyn un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.