'Anhygoel' cael torf fawr yn gwylio tîm merched Cymru
Mae'r prop Gwenllian Pyrs yn dweud y bydd hi'n "anhygoel" chwarae o flaen dros 18,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Principality yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Hon fydd y dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm gartref yn hanes y tîm.
Fe gollodd Cymru oddi cartref yn erbyn Yr Alban yn eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth eleni, tra bod Lloegr wedi ennill yn gyfforddus yn erbyn Yr Eidal.