Disgwyl y dorf fwyaf erioed wrth i dîm rygbi'r merched groesawu Lloegr

10,592 oedd record flaenorol tîm Menywod Rygbi Cymru a hynny yn erbyn yr Eidal y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn gael ei chwarae o flaen torf o fwy na 18,000 o gefnogwyr.
Byddai hynny yn record i ddigwyddiad chwaraeon menywod yng Nghymru.
Cafodd y record flaenorol ei gosod ym mis Rhagfyr, gyda thorf o ychydig o dan 17,000 yng ngêm bêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Record flaenorol tîm menywod rygbi Cymru oedd 10,592 a hynny yng ngêm olaf y Chwe Gwlad llynedd yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality.
Bydd y gêm yn Stadiwm Principality yn cychwyn am 16:45 ddydd Sadwrn.
Dau newid i'r tîm
Mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud dau newid i'r tîm a gollodd i'r Alban y penwythnos diwethaf yn ei gêm gyntaf wrth y llyw.
Mae'r prop Gwenllian Pyrs a'r ail reng Gwen Crabb yn dod i mewn am Maisie Davies ac Alaw Pyrs.
Bydd Pyrs yn ymuno â'r bachwr Carys Phillips a'r prop arall Jenni Scoble yn y rheng flaen.
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, gyda Keira Bevan yn is-gapten.

Bydd Hannah Jones yn arwain y tîm unwaith eto ddydd Sadwrn
Bydd Crabb yn ymuno ag Abbie Fleming yn yr ail reng – tra bydd y rheng ôl yn aros yr un fath – gyda Kate Williams, Bethan Lewis a'r wythwr Georgia Evans wedi eu dewis unwaith eto.
Parhau bydd partneriaeth Bevan a Lleucu George fel haneri, ac felly hefyd Jones a Kayleigh Powell yn y canol.
Bydd cysondeb yn y tri ôl hefyd gyda'r cefnwr Jasmine Joyce a'r asgellwyr Lisa Neumann a Carys Cox yn chwarae o'r dechrau.
Dywedodd Sean Lynn: "Mae'r ffaith bod cymaint o deulu rygbi Cymru'n dod i ddangos eu cefnogaeth i'r garfan ddydd Sadwrn yn gyffrous ac yn ein gwneud yn ddiolchgar a gwylaidd iawn hefyd."
Ychwanegodd fod "wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf yn ein hanes, a hynny o flaen record o dorf – yn tynnu dŵr i'r dannedd.
"Mae hynny hefyd yn dangos faint o dwf sydd wedi bod yng nghamp y menywod yma yng Nghymru'n ddiweddar," meddai.
Tîm Cymru i wynebu Lloegr
Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Hannah Jones (capt), Kayleigh Powell, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllïan Pyrs, Carys Phillips, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans.
Eilyddion: Kelsey Jones, Maisie Davies, Donna Rose, Alaw Pyrs, Bryonie King, Meg Davies, Courtney Keight, Nel Metcalfe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024