Y stryd ble mae'r nifer fwyaf o yrwyr wedi torri'r terfyn 20mya
Mae'n dros flwyddyn erbyn hyn ers gostwng y terfyn cyflymder gyrru o 30mya i 20mya ar filoedd o ffyrdd ar draws Cymru.
Yn ôl ystadegau diweddaraf Trafnidiaeth Cymru, mae dros hanner y modurwyr sydd wedi eu monitro yn parhau i yrru yn arafach na 24mya ar y ffyrdd yma.
Ond mae ymatebion i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos bod chwarter y bobl sydd wedi cael eu dal yn goryrru mewn ardaloedd 20mya, wedi eu dal ar ddwy ffordd yn unig.
Dros gyfnod o 10 mis, cafodd 7,200 o fodurwyr eu dal yn gyrru'n gyflymach na 20mya ar yr A5104 ym Mhontybodkin ger Penyffordd, Sir y Fflint.
Ond ar frig y tabl mae Heol Abertawe ar yr A4102 yng Ngelli-deg, Merthyr Tudful, sy'n cysylltu'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r A470.
Ar y ffordd honno, fe gafodd mwy na 8,000 o yrwyr eu dal yn gyrru dros y terfyn cyflymder o 20mya mewn 10 mis, gan gynnwys 1,000 ym mis Hydref yn unig.