Lle sydd wedi dal y nifer fwyaf o bobl yn gyrru dros 20mya?
- Cyhoeddwyd
Mae chwarter y bobl sydd wedi cael eu dal yn goryrru mewn ardaloedd 20mya yng Nghymru wedi cael eu dal ar ddwy ffordd yn unig, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae Heol Abertawe ar yr A4102 yng Ngelli-deg, Merthyr Tudful - sy'n cysylltu'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r A470 - wedi dal mwy na 8,000 o yrwyr yn gyrru dros y terfyn cyflymder o 20mya mewn 10 mis.
Drwy gais rhyddid gwybodaeth, mae BBC Cymru wedi canfod bod 7,200 o fodurwyr wedi eu dal yn gyrru dros y terfyn cyflymder 20mya ar yr A5104 ym Mhontybodkin ger Penyffordd, Sir y Fflint hefyd.
Daw hyn wrth i ffigyrau diweddaraf Trafnidiaeth Cymru ddangos fod dros hanner y modurwyr sydd wedi eu monitro yn parhau i yrru yn arafach na 24mya.
Fe wnaeth y BBC holi GanBwyll a'r heddlu i weld faint o fodurwyr gafodd eu dal yn goryrrru mewn ardaloedd 20mya ar draws Cymru.
Fe gafodd y BBC fanylion am bron i 62,500 o achosion rhwng Ionawr a Hydref eleni
Yng Ngelli-deg, cafodd 1,000 o yrwyr eu dal ym mis Hydref yn unig.
Mae rhan o Ffordd Abertawe ymysg yr 20 o ffyrdd sy'n cael eu monitro gan Gyngor Merthyr Tudful, ac mae posibilrwydd y gallai'r terfyn cyflymder gael ei newid yn ôl i 30mya yno.
Roedd Rhodfa'r Gors yn ardal Townhill, Abertawe yn ardal arall lle cafodd nifer o bobl eu dal (3,700 o achosion), tra bod pum ffordd yn Sir y Fflint ymysg y 10 uchaf.
Nid oedd Heddlu Dyfed-Powys yn medru cyflwyno'r union ddata i ni ynghylch 1,900 o achosion mewn 88 o lefydd yn yr ardal, ac rydym yn aros am ymateb gan Heddlu Gwent ynghylch 74 o leoliadau yn yr ardal honno.
Fe ddaeth camau gorfodi i rym fis Ionawr eleni - pedwar mis ar ôl i'r newid mewn polisi gychwyn.
Cafodd ffigyrau newydd ar gyfer y rheiny a gafodd eu dal yn gyrru dros 20mya ym mis Tachwedd eu cyhoeddi'r wythnos hon, ac roedd yn dangos bod 12,000 o fodurwyr wedi eu dal.
Mae'n golygu bod 77,150 o achosion o oryrru mewn ardaloedd 20mya wedi'u cofnodi gan heddluoedd ers cychwyn y flwyddyn.
Er hyn, mae tua 96% o fodurwyr yn cadw o fewn cyflymder o 26mya.
Ond dim ond 82 o'r 77,000 o achosion o oryrru a arweiniodd at erlyniad.
Y cyflymder cyfartalog ar gyfer y rheiny a gafodd eu dal ym mis Tachwedd oedd 28mya, tra mai 70mya oedd y cyflymder uchaf a gafodd ei gofnodi.
Beth mae'r ffigyrau'n ei ddangos?
Mae mesur pa mor dda y mae modurwyr yn cydymffurfio â'r cyfyngiad 20mya hefyd yn dibynnu ar waith monitro gan Drafnidiaeth Cymru mewn 10 lleoliad, o Lanrug i Gasnewydd.
Cafodd bron i saith miliwn o gerbydau eu cofnodi ar 43 o bwyntiau monitro yn yr haf.
Roedd bron i 53% yn teithio ar gyflymder o 24mya neu lai. Mae hyn yn cymharu â bron i 59% y gaeaf diwethaf.
Ond cyn y newid y drefn, tua 21% o gerbydau oedd yn teithio ar gyflymder o 24mya neu lai.
Y cyflymder cyfartalog yn y safleoedd monitro hyn oedd 25.1mya yn yr haf - ychydig yn gynt na'r cyflymder a gafodd ei gofnodi y gaeaf diwethaf (24.4mya).
Roedd 16% o'r cerbydau a gafodd eu monitro yn teithio ar gyflymder o 30mya neu fwy - cynnydd o'r 14% o gerbydau a gofnodwyd y gaeaf diwethaf.
Mae ffigyrau cynnar yn awgrymu bod anafiadau difrifol ar y ffyrdd wedi gostwng ar ffyrdd 20mya a 30mya ers i'r polisi newydd ddod i rym, er mae'n rhy gynnar i ddweud a yw hon yn duedd hirdymor.
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Medi 2024
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
Nod cyffredinol y polisi, a ddaeth i rym ym mis Medi 2023, oedd gwella diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau gostyngiad mewn cyflymder mewn ardaloedd preswyl.
Mae terfyn cyflymder yn cael ei orfodi gan heddluoedd, ond y cyflymder y gallai modurwyr ddisgwyl cael eu herlyn yw tua 28mya ar gyfartaledd.
Ond fe wnaeth y polisi achosi cryn ddadlau, gyda nifer yn ei wrthwynebu a chychwyn deiseb fawr yn erbyn y penderfyniad.
Mae Llywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n ailystyried y terfyn 20mya ar rai ffyrdd, yn enwedig rhai sydd i ffwrdd o ardaloedd preswyl.