Hofrennydd yn tywallt bwced o ddŵr ar dân mynydd
Dyma'r foment y gollyngodd hofrennydd ddŵr ar dân gwyllt tanbaid.
Dyma'r tro cyntaf eleni i Cyfoeth Naturiol Cymru anfon ei hofrennydd, sy'n gallu cludo 1,200 litr o ddŵr, i'r gwasanaethau tân ac achub.
Roedd y tân ar fynyddoedd y Berwyn uwchben Corwen, Sir Ddinbych, brynhawn Gwener.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi bod yn ymateb i fwy nag 20 o achosion o danau gwyllt dros ddydd Iau a dydd Gwener ar draws Conwy, Sir Ddinbych, a Gwynedd.
Ers dydd Iau, mae 113 o danau glaswellt hefyd wedi eu hadrodd yng nghanolbarth a de Cymru ar ôl cyfnod o amodau sych a sefydlog ledled Cymru.