Cyngor i gau ffenestri wrth i ddwsinau o danau gwair ledaenu

Tân DowlaisFfynhonnell y llun, Eddy Blanche
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o griwiau eu hanfon at y tân gwair yn Nowlais dydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân yn parhau i ddelio â dwsinau o danau gwair ledled Cymru, yn dilyn tywydd sych.

Roedd tanau yn Nowlais, Glyncorrwg, Llanfair Caereinion a Chrucywel yn parhau i losgi fore Gwener.

Yn y gogledd mae criwiau wedi gadael Talysarn ger Mynydd Cilgwyn a Mynydd Llandygái, Bethesda ond yn parhau i ddelio â'r tân yng Ngharrog ger Corwen.

Mae'r tân yng Ngharrog wedi arwain at fwg sylweddol yn yr ardal ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori trigolion i gau ffenestri fel rhagofal.

TalysarnFfynhonnell y llun, Luke Griffin Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa wedi'r tân yn Nhalysarn bore Gwener

Erbyn bore Gwener roedd criwiau wedi bod yn delio â 86 o wahanol ddigwyddiadau, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cafodd nifer o griwiau eu hanfon at dân gwair ym Mhengarnddu, Dowlais, Merthyr Tudful tua 15:45, gyda'r fflamau yn lledu rhyw bedair i bum cilometr.

Nos Iau roedd y tân mawr yn ardal Carrog i'w weld o bellter o filltiroedd i ffwrdd.

'Tân anferthol'

Dywedodd y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts: "Dwi 'di byw yn yr ardal yma erioed a dwi erioed 'di gweld tân o'r math yma."

"Ges i alwad ffôn tua 22:30 [nos Iau] yn dweud bod 'na dân anferthol ar fynydd Cilgwyn, mi ddes i lawr 'ma ac mi oedd y lle'n wenfflam."

Fe agoron nhw neuadd Carmel er mwyn cynnig man i'r diffoddwyr tân gael seibiant.

"Mae rhaid i bobl gofio hefyd er mai tân ar y mynydd oedd o mae 'na dai ar y mynydd, mae 'na fywyda mewn perygl yma, ac wrth gwrs mae bywyd gwyllt 'di cael ei golli hefyd – mi oedd o'n dân anferthol."

Llun o Arwyn Herald Roberts yn sefyll ar ochr ffordd mynydd Cilgwyn.
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni yma ar ochr y ffordd ac mae'r tyfiant yma 'di llosgi sy'n dangos pa mor agos odd y tân 'di dod at y gymuned", meddai'r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

Nos Iau roedd dros 20 o ddiffoddwyr yn taclo tân gwair mawr yn Nhrefriw yn Sir Conwy.

Disgrifiwyd digwyddiad yn Nhreorci fel "tân sylweddol" ond roedd yn rhaid aros nes fore Gwener i'w daclo gan fod yr amodau'n anniogel yn y tywyllwch.

Mae'r tanau'n dilyn nifer o ddyddiau sych a heulog, ond mae disgwyl i'r amgylchiadau fod yn fwy ansefydlog dros y penwythnos wrth i system wasgedd isel symud i mewn o'r de orllewin.

Dywedodd Eddy Blanche, Cynghorydd cymunedol Cwm Darran bod y tanau yma yn cael "effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt" ac yn "rhoi diogelwch y cyhoedd ac aelodau'r gwasanaeth tân mewn perygl."

"Roedd adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o geffylau gydag ebolion ifanc yn cael eu gweld yn ffoi rhag y fflamau ac yn gorfod cael eu gadael allan o'r caeau ar y ffyrdd.

"Os yw'r rhain yn cael eu cychwyn yn fwriadol, rwy'n gobeithio y bydd yr heddlu yn dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu herlyn," ychwanegodd.

Tân Mynydd y Berwyn Ffynhonnell y llun, Neil Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Y tân ar Fynydd y Berwyn ger Corwen nos Iau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddiffodd y tân yn y Berwyn, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Dywedodd Nick Thomas, Rheolwr Tactegol CNC: "Bydd hofrennydd diffodd tân CNC yn cael ei ddefnyddio [dydd Gwener] i gynorthwyo gyda'r ymdrechion."

Dyma'r tro cyntaf yn 2025 i CNC ryddhau hofrennydd er mwyn helpu'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Ychwanegodd, "Mae'r tân wedi lledaenu ar ardal o goedwigaeth sy'n cael ei rheoli gan CNC.

"Bydd ein swyddogion yn parhau i roi cyngor a gwybodaeth i bartneriaid ar y tirweddau gwarchodedig a'r blociau coedwigaeth ar y safle.

"Byddwn yn aros ar y safle i gefnogi'r gwasanaethau brys, a byddwn yn asesu unrhyw ddifrod i'r tir rydym yn ei reoli a'r ardal gyfagos cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny."

Tân Mynydd y BerwynFfynhonnell y llun, Lois Roberts

Mae trigolion ardaloedd Trawsfynydd a Bronaber yng Ngwynedd yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau, oherwydd mwg o dân glaswellt.

Dyma'r ail dân yn yr ardal honno'r wythnos hon.

Mewn datganiad, fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru atgoffa tirfeddianwyr sy'n cynnal llosgiadau rheoledig, i wneud hynny'n gyfrifol ac i roi gwybod i swyddogion tân ymlaen llaw bob amser.

Llun o dân ar fynydd GlyncorrwgFfynhonnell y llun, Gorsaf Dân Cymer
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor gan y Gorsaf Dân yw i breswylwyr ardal Glyncorrwg a Chymer i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau

Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru: "Mae llosgi grug a glaswellt dan reolaeth, sy'n cael ei wneud ar yr amser cywir ac o dan yr amodau cywir, yn ffordd wych o reoli rhai cynefinoedd a mannau pori."

"Ond, mae'n hanfodol ei fod yn cael ei wneud o fewn y cyfnodau yn y calendr y mae'n cael ei ganiatáu a bod digon o bersonél ar y safle i reoli'r tân yn ddiogel.

"Mae gwneud galwad ffôn gyda manylion y gwaith llosgi dan reolaeth, gan gynnwys amser, dyddiad a lleoliad manwl gywir i'r Gwasanaeth Tân cyn dechrau'r gwaith ond yn cymryd munud".