Dinistr yng Nghwmtyleri yn dod i'r amlwg yn dilyn Storm Bert

Wrth i'r gwaith clirio barhau yn dilyn Storm Bert mae pobl yn ne Cymru wedi sôn am eu dicter ar ôl yr hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio yw diffyg paratoi ar gyfer Storm Bert.

Mae nifer o deuluoedd wedi gorfod symud o'u cartrefi yng Nghwmtyleri yn dilyn tirlithriad dros nos.

Aeth rhai i aros yn y ganolfan hamdden leol medd y cyngor.

Daw wedi i Cyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi digwyddiad difrifol brynhawn ddydd Sul wrth i'r sir gyfan wynebu llifogydd.

Cafodd sawl ardal eu taro'n wael gan effaith y glaw trwm dros y penwythnos.

Dywedodd un o’r trigolion lleol, Wayne Green bod pawb ar ei stryd ef i gyd wedi eu symud i’r ganolfan yn hwyr nos Sul.

Dywed cyngor Blaenau Gwent eu bod yn “ymwybodol bod nifer o bobl yn ardal Cwmtyleri wedi cael eu symud o’u tai gan y gwasanaethau brys".