Storm Bert: Parhau â'r clirio wedi tirlithriad a llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn ne Cymru wedi sôn am eu dicter wrth iddyn nhw honni bod diffyg paratoi ar gyfer Storm Bert.
Mae sawl ardal wedi eu taro gan effaith y glaw trwm dros y penwythnos.
Ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion wedi dweud na chafodd gwersi eu dysgu o Storm Dennis, pan oedd rhannau helaeth o'r dref dan ddŵr yn 2020.
Yng Nghwmtyleri, mae'r llywodraeth wedi cadarnhau bod tirlithriad yno wedi dod o domen lo uwchben yr ardal.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r cyngor a'r Awdurdod Glo i sicrhau pobl leol bod yr ardal yn ddiogel.
Fore Llun, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn edrych ar yr ymateb i'r rhagolygon, ac a oes gwersi i'w dysgu.
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2024
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y DU Kier Starmer wedi siarad gyda Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol os oes ei angen.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed: "Hyd yma, dydyn nhw [Llywodraeth Cymru] heb ddweud eu bod ei angen.
"Ond rydym yn sefyll yn barod i gynnig pa bynnag gefnogaeth y gallwn i'r rhannau hynny o Gymru sydd wedi cael eu taro waethaf gan y llifogydd."
Mae sawl rhybudd am lifogydd, dolen allanol yn parhau mewn grym brynhawn Llun.
Mae dros 30 o ysgolion yn siroedd y de wedi cau ddydd Llun yn dilyn y llifogydd, a hynny ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Powys a Mynwy.
Mae nifer o bobl wedi gorfod symud o’u cartrefi wedi tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent.
Roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos adeiladau wedi eu hamgylchynu gan laid a mwd wrth i ddŵr lifo drwy'r stryd.
Cafodd rhai pobl eu symud o Gwmtyleri i’r ganolfan hamdden, medd y cyngor.
Dywedodd un o’r trigolion lleol, Wayne Green fod pawb ar ei stryd wedi eu symud i’r ganolfan yn hwyr nos Sul.
Dywedodd Rob Scholes, sy'n byw ar waelod y bryn fod y digwyddiad "yn frawychus".
"Roedd yn syndod pa mor sydyn ddigwyddodd y cyfan.
"Roedd yn bryderus gweld cymaint o sbwriel yn dod i lawr, ond roedd y frigâd dân yn wych."
Dywedodd iddo dreulio'r noson yn nhŷ ei ferch gan ddweud ei fod yn "lwcus".
Aeth ymlaen i ddweud nad oedd unrhyw rybudd: "'Nes i jyst gweld rhai o'r cymdogion yn trio mynd i ffwrdd" gan ddweud fod y tirlithriad yn bwerus.
"Dwi wedi byw yma ers 17 o flynyddoedd a'r tro diwethaf i mi weld rhywbeth tebyg oedd bedair blynedd yn ôl gyda Storm Dennis, ond doedd e ddim mor wael â hyn."
Dywed cyngor Blaenau Gwent eu bod yn “ymwybodol bod nifer o bobl yn ardal Cwmtyleri wedi cael eu symud o’u tai gan y gwasanaethau brys".
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Steve Thomas, eu bod yn delio gyda’r tirlithriad a bod “arbenigwyr a chontractwyr ar y safle yn gweithio'n galed i ddatrys y sefyllfa.”
“Rydym yn deall bod hyn yn peri pryder a bod pobl yn poeni am adael eu cartrefi, ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi’u heffeithio, ond mae diogelwch y cyhoedd bob amser yn hollbwysig.”
Ychwanegodd bod y cyngor yn parhau i gefnogi’r bobl hynny ac “wedi trefnu llety brys i breswylwyr lle bo angen ac wedi sefydlu canolfan gynghori yn lleol ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth".
“Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu rhoi amserlen ar pryd y gall pobl ddychwelyd i'w cartrefi, ond rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a bydd ein cymorth a'n cefnogaeth yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn."
'Yr effaith yn ofnadwy'
Dywedodd Alun Davies, Aelod Senedd Cymru dros Flaenau Gwent bod ôl-effaith y llifogydd yn "ofnadwy".
"Mae Huw Irranca-Davies yma fel dirprwy brif weinidog i weld beth gall Llywodraeth Cymru 'neud i gynnig cymorth i bobl Cwmtyleri.
“Mae pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros nos yn aros mewn gwestai ar hyn o bryd mae’r Cyngor wedi delio gyda hynny.
"Ond wrth gwrs mae pobl ishe dod 'nôl i'w cartrefi nhw ac maen nhw eisiau teimlo yn saff yn eu cartrefi nhw.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i bobl deimlo yn saff ble maen nhw yn byw, a dyna fyddwn ni yn edrych beth sydd wedi digwydd fan hyn, pam mae e wedi digwydd."
Cymuned ar ei gorau
Wrth ddisgrifo'r sefyllfa ym Mhontypridd, dywedodd Jayne Rees ei bod wedi mynd yn syth at Glwb y Bont:
"Roedd e’n hollol amhosib i fynd yn agos at y drysau. Roedd rhai o’r pwyllgor wedi bod lawr y noson cyn hynny yn rhoi llifddorau lan, ond roedd y dwr yn dod lan y lôn."
Dywedodd bod criw o chwech neud saith person o flaen Clwb y Bont a gwirfoddolwyr ger yr amgueddfa "yn tywallt y dŵr i fewn i’r afon," meddai.
"Ond dyna beth yw cymuned mewn tref fel Pontypridd - o gofio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol mae pobl ond yn barod i ddod allan i helpu."
Aeth ymlaen i ddweud bod pobl leol yn teimlo'n "grac" nad oedd rhybudd coch wedi dod.
Fe wnaeth hi cydnabod bod dim modd "rhwystro natur, mae hi'n mynd i fwrw ac mae'r afonydd yn mynd i lifo'n gyflymach", ond dywedodd hefyd ei bod yn "gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd ar ôl hwn eto nawr."
Hefyd yn byw ym Mhontypridd mae Eurgain Hafm a ddywedodd bod yr ymateb dros y penwythnos yn debyg i adeg Storm Dennis.
“Dwi’n cofio’r adeg yn iawn a mynd lawr i ganolfan gymunedol Y Trallwng a thrio gwneud be allwn i i helpu - fela oedd hi ddoe hefyd.
“Daeth yna alwad am hen orchuddion clustogau er mwyn gwneud bagiau tywod achos doedd dim digon wedi cyrraedd ar y pryd - rhoddon ni neges ar Whatsapp y stryd ac oedd ‘na bentwr tu allan i’r drws mewn pum munud.
"Wedyn roedd ‘na alwad am fopiau, bwcedi, offer glanhau, a rheiny’n dod o bob cwr i’r ganolfan hefyd – cymuned ar ei orau’n gwneud be allen nhw i helpu.”
Dywedodd hefyd bod busnesau'r dref wedi'u taro'n wael gyda sefyllfa siop lyfrau Storyville yn "dorcalonnus".
"Roedden nhw wedi colli gymaint o stoc, gyda bagiau bin llawn llyfrau newydd sbon wedi pentyrru tu allan i’r siop.”
'Rhyfeddu' gyda rhybudd melyn yn unig
Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod wedi ei "ryfeddu" mai dim ond rhybudd tywydd melyn oedd mewn grym ar gyfer Storm Bert, gan ychwanegu bod disgwyl rhybudd oren.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd yna "asesiad llawn", ond bod digonedd o rybudd o flaen llaw am y storm gyda "nifer o rybuddion" wedi eu cyhoeddi.
Dywedodd Mr Morgan yn ddiweddarach y byddai'r awdurdod yn rhoi £500,000 o gyllid argyfwng i drigolion a busnesau lleol sydd wedi'u heffeithio.
Bydd £1,000 yn cael ei roi i drigolion a busnesau fel man cychwyn, a bydd rhagor o gyllid ar gael i fusnesau wneud newidiadau mwy hirdymor, meddai.
'Torcalonnus'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Heledd Fychan AS, Aelod Canol De Cymru Plaid Cymru yn Senedd Cymru bod y sefyllfa yn "dorcalonnus".
“I’r rhai hynny sydd wedi dioddef mae meddwl am y difrod hwnnw a sut maen nhw yn mynd ati, nifer o fusnesau hefyd wedi methu cael yswiriant yn dilyn Storm Dennis yn 2020 felly mae hi am fod yn eithriadol o bwysig bod yna gefnogaeth ar gael iddyn nhw.
"Mae lot fawr o bryder am sut mae pobl am gael eu tai a’u busnesau wedi eu hatgywirio ac yn yr hir dymor ydi hyn yn mynd i fod yn risg parhaus rŵan, a pha gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw," meddai.
Dyweododd bod Llywodraeth Cymru wedi "gwrthod cael ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020" a oedd yn rhywbeth "roedd nifer o drigolion ddioddefodd llifoygdd eisiau gweld," meddai.
"Oherwydd 'da ni yn gweld y tywydd mwy eithafol yma, 'da ni angen deall pam bod rhai tai yn ei chael hi a rhai ddim."
Aeth ymlaen i ddweud bod rhai trigolion lleol wedi son am effaith clwydi atal llifogydd.
"Dim ond rhai modfeddi falle ddoth mewn i’r tai a’r busnesau i gymharu gyda beth welson ni yn 2020 felly peth newyddion da, ond hyd yn oed gyda modfeddi mae hynna yn creu dinistr llwyr wrth gwrs."
Ychwanegodd hefyd bod angen "cefnogaeth ymarferol" ar y rhai sydd a risg parhaus.
Wrth ymateb, dywedodd Sian Williams o asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau nad oedd rhai wedi cael "digon o rybudd" o'r llifogydd posib.
Dywedodd: "Mae 'na bobl yn dweud na chafon nhw ddigon o amser i baratoi ar ôl derbyn hynny, cyn i’r llifogydd daro, bydd hynna yn rhywbeth 'da ni yn sbïo arno rŵan, oedd o’n gywir, wnaethon ni roi rhybudd allan pan wnaeth yr afon gyrraedd lefel penodol?
"Ynta' oes 'na bethau ni angen dysgu o ran sut mae’r afon yn gweithio, faint o amser ydan ni yn rhoi, ydan ni angen gostwng y trigger fel petai?
"Felly bydd hwnna yn rhywbeth byddwn ni yn sbïo arno dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf fel rhan o’r arolwg fyddwn ni yn gwneud o’r hyn ddigwyddodd yn ystod y storm."
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio i yfed neu goginio yng nghymoedd y de wedi i broblem ddod i'r amlwg yng ngwaith trin dŵr Tynywaun yn sgil y storm.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i drigolion ym Mlaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli a Thonypandy.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae hynny'n effeithio ar 12,000 o gwsmeriaid.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf dydd Sul bod effaith y llifogydd yn ymddangos "yn fwy sylweddol na'r difrod yn ystod Storm Dennis" yn 2020.
Mae Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol yn dweud bydd "effaith difrifol" ar eu gwasanaethau dydd Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod eu "rhagolygon i Storm Bert yn dda" ac wedi dod 48 awr ymlaen llaw, gyda "nifer o rybuddion yn eu lle" cyn i'r storm ddechrau yn y DU.
Ychwanegodd: "Roedd y rhybuddion ar gyfer Cymru yn amlygu’r potensial i gartrefi a busnesau orlifo â dŵr llifogydd cyflym neu ddŵr dwfn, gan achosi perygl i fywyd."