Yr olygfa o'r awyr wedi tirlithriad Cwmtyleri

Mae nifer o bobl wedi gorfod symud o’u cartrefi wedi tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent yn dilyn glaw trwm.

Roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos adeiladau wedi eu hamgylchynu gan laid a mwd wrth i ddŵr lifo drwy'r stryd.

Cafodd rhai pobl eu symud o Gwmtyleri i’r ganolfan hamdden, medd y cyngor.

Dywedodd Rob Scholes, sy'n byw ar waelod y bryn fod y digwyddiad "yn frawychus".

Dywedodd iddo dreulio'r noson yn nhŷ ei ferch gan ddweud ei fod yn "lwcus".

Dyma'r olygfa o'r tirlithriad o'r awyr ddydd Llun.