Storm Bert: 'Dim gobaith i'r gêm fynd yn ei blaen'
Mae ail storm fawr y tymor newydd wedi cyrraedd Cymru gan achosi glaw trwm a gwyntoedd cryf ar draws y wlad.
Fe fydd y rhybuddion tywydd yn sgil Storm Bert mewn grym tan ddydd Sul, ac mae'r tywydd garw wedi torri cyflenwadau trydan ac achosi amodau heriol i deithwyr.
Mae hefyd wedi arwain at orfod gohirio ambell gêm bêl-droed yng nghyngheiriau is Cymru.
Un ohonyn nhw oedd yr ornest yn Uwch Adran Dwyreiniol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru rhwng Ngherrigydrudion a Llanfairfechan.
Huw Goddarn, cadeirydd Clwb Pêl-droed Cerrigydrudion, sy'n egluro pam.