Storm Bert: Achub 10 wedi tirlithriad a miloedd heb drydan
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid achub pum oedolyn a phum plentyn o dŷ wedi tirlithriad yn Sir Wrecsam wrth i Storm Bert achosi trafferthion ar hyd Cymru.
Mae'r heddlu wedi cau'r ardal o gwmpas y tirlithriad, a ddigwyddodd tua 14:00 yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ger Llangollen.
Roedd tua 2,500 o adeiladau yn ne a gorllewin Cymru heb gyflenwad trydan yn gynharach oherwydd y tywydd garw.
Yn ôl y National Grid, dolen allanol, roedd dros 1,000 o'r cyfeiriadau heb drydan brynhawn Sadwrn yn Sir Castell-nedd Port Talbot, dros 600 yn Sir Gaerfyrddin, dros 250 yn siroedd Caerffili a Mynwy a bron i 200 ym Mhowys.
Erbyn 20:30 nos Sadwrn roedd y nifer wedi gostwng i lai na 600.
Mae ambell ffordd ar gau oherwydd y glaw trwm ac mae sawl rhybudd llifogydd mewn grym, dolen allanol.
Ymateb y gymuned yn 'anhygoel'
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi anfon criwiau o Wrecsam, Johnstown, Llangollen a Rhuthun mewn ymateb i'r tirlithriad.
Roedd dŵr a malurion wedi llifo o dir uchel i'r tŷ, meddai, gan achosi "difrod sylweddol" i'r eiddo.
Ychwanegodd y gwasanaeth bod "llifogydd sylweddol yn parhau yn yr ardal" gan gynghori'r cyhoedd i gadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf ac osgoi unrhyw ffyrdd sydd ar gau.
Yn ôl perchennog tafarn leol, roedd y gwasanaethau brys wedi gadael y safle erbyn diwedd y prynhawn.
"Mae'r gymuned wedi bod yn anhygoel," dywedodd Jonathan Greatorex wrth BBC Cymru, "ac wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r teulu ar adeg hynod anodd, mwya' tebyg."
Roedd disgwyl toriadau trydan a thrafferthion eraill tra bod dau rybudd melyn am dywydd garw mewn grym yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ym mhob un o siroedd Cymru ers 06:00, gan barhau tan 06:00 ddydd Sul ac fy rybuddiodd y Swyddfa Dywydd bod hyd at 150mm o law yn bosib mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Mae rhybudd ar wahân am wyntoedd cryf iawn "sy'n debygol o achosi amodau arfordirol peryglus a thrafferthion" yn 13 o siroedd rhwng bore Sadwrn a 21:00 nos Sul.
Mae'r rhybudd hwn yn effeithio ar lefydd yn siroedd Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod maint y glaw all syrthio yn y de ddydd Sadwrn yn gyfystyr â chyfanswm glawiad cyfartalog mis Tachwedd i gyd.
Roedd disgwyl hyrddiadau rhwng 50-60 mya yn y rhan fwyaf o ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y rhybydd gwynt, a rhwng 60-70 mya mewn rhai mannau arfordirol.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe gafodd hyrddiadau o 82 mya eu cofnodi yng Nghapel Curig, yn Sir Conwy ac mae rhan o'r A5 ar gau rhwng Capel Curig a Bethesda gan fod gymaint o ddŵr arni.
Erbyn diwedd y prynhawn roedd yr A494 yn Llanuwchllyn ger Y Bala ar gau hefyd, ynghyd â lôn orllewinol ffordd osgoi Dolgellau (A470).
Mae llifogydd yn creu anawsterau mewn rhannau eraill o'r A5 - ger Llidiart y Parc rhwng Corwen a Charrog a rhwng Maerdy a Cherrigydrudion.
Bu'n rhaid cau'r M48 Pont Hafren oherwydd gwyntoedd cryfion, gan olygu bod angen i yrwyr ddefnyddio Pont Tywysog Cymru yn hytrach.
Yn y gogledd mae cyfyngiadau ar yr A55 Pont Britannia, a does dim modd gyrru carafanau, beiciau modur na beiciau ar ei thraws am y tro.
Mae ffordd ar gau ym mhentref Clun ger Castell-nedd wedi i bostyn lamp syrthio ger pont rheilffordd.
Dywed Heddlu De Cymru bod y ffordd yn debygol o fod ar gau "am beth amser" wrth i arbenigwyr ddiogelu'r ardal.
Roedd disgwyl y byddai'r tywydd gwael yn achosi trafferthion teithio dros y penwythnos.
Bu'n rhaid canslo holl deithiau Irish Ferries rhwng Doc Penfro a Rosslare ddydd Sadwrn, ynghyd â rhai o deithiau'r cwmni rhwng Caergybi a Dulyn.
Mae Stena Line hefyd wedi canslo gwasanaethau'r dydd rhwng Abergwaun a Rosslare.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi ganol ddydd Sadwrn bod wyth o gychod wedi gorfod angori oddi ar yr arfordir yn ardal Amlwch oherwydd yr amodau garw.
Fe gadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru ddydd Gwener mai bysus fydd yn rhedeg yn hytrach na threnau ddydd Sadwrn ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy a Rheilffordd Lein Calon Cymru yn y canolbarth oherwydd y storm sydd i ddod.
Roedd disgwyl i wasanaethau eraill redeg yn ôl yr arfer ond mae rheolwyr yn cynghori pobl i wirio'r manylion diweddaraf ac i gymryd pwyll wrth deithio i'r orsaf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus rhag llifogydd.
Wrth i law trwm syrthio ac eira ganol yr wythnos doddi, fe allai ddŵr cronni mewn mannau a lefelau afonydd godi'n sydyn.
Dywed CNC bod eu timau'n cydweithio ag ymatebwyr brys eraill ac awdurdodau lleol "gan sicrhau bod amddiffynfeydd llifogydd mewn cyflwr da a pharatoi i helpu cadw pobl ac eiddo yn ddiogel".
Mae nifer y rhybuddion llifogydd ar draws Cymru wedi codi'n gyson yn ystod y dydd.
Mae'r rhybuddion mwyaf difrifol yn ardaloedd canlynol:
Afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie;
Ardaloedd isel ar bwys Afon Cothi;
O gwmpas sawl eiddo ynysig ger Afon Tywi rhwng Llandeilo ac Abergwili;
Afon Hafren yn ardaloedd Aber-miwl a Fron, ac Aberbechan; ac
Afon Tawe yn Ystradgynlais.
Mae'r manylion diweddaraf yma, dolen allanol.
Dywedodd y Rheolwr Tactegol, Katie Davies bod "sicrhau eich bod yn gwybod beth yw'r sefyllfa ble rydych yn byw yn wirioneddol bwysig....
"Bydd ein timau'n gwneud popeth posib i leihau'r risg i'n cymunedau, ond os oes llifogydd rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud popeth gallen nhw ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel hefyd.
"Rydym yn erfyn ar bobl i gadw draw o afonydd sydd wedi codi, i beidio gyrru neu cerdded drwy lifogydd - yn aml mae'n ddyfnach nag y mae'n edrych ac fe allai guddio peryglon cudd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024