Ennill y Tour of Britain 'yn sbesial' i Stephen Williams

Mae'r Cymro cyntaf i ennill ras seiclo'r Tour of Britain yn ei ffurf bresennol wedi disgrifio ei deimladau mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast.

Stephen Williams oedd ar y brig ddydd Sul ar ddiwedd chweched cymal y ras, gydag 16 eiliad o fantais dros yr Albanwr Oscar Onley yn yr ail safle yn y dosbarthiad cyffredinol.

Dyma ei ail deitl eleni ar ôl ennill y Tour Down Under ddechrau'r flwyddyn.

Ond yn ôl y seiclwr o Aberystwyth, sy'n cynrychioli tîm Israel-Premier Tech, roedd ennill ras ar ffyrdd cyfarwydd yn brofiad arbennig.