Y Cymro Stephen Williams yn ennill y Tour of Britain

Disgrifiad,

Stevie Williams o Aberystwyth yw'r Cymro cyntaf i ennill y ras

  • Cyhoeddwyd

Mae Stephen Williams o Aberystwyth wedi ennill ras seiclo'r Tour of Britain.

Roedd gan y Cymro Cymraeg fantais o 16 eiliad cyn dechrau'r chweched cymal - y cymal olaf - rhwng Lowestoft a Felixstowe yn Suffolk ddydd Sul.

Roedd hynny wedi iddo ennill yr ail gymal ddydd Mercher, a'r trydydd cymal ddydd Iau.

Y gwibiwr Matevž Govekar o Slofenia enillodd y cymal olaf ddydd Sul, tra bod Williams wedi llwyddo i orffen gyda gweddill y peloton er mwyn sicrhau ei fuddugoliaeth.

Oscar Onley o'r Alban ddaeth yn ail yn y dosbarthiad cyffredinol - 16 eiliad y tu ôl i Williams - tra mai Tom Donnenwirth o Ffrainc ddaeth yn drydydd.

Williams, sy'n cynrychioli tîm Israel-Premier Tech, yw'r Cymro cyntaf i ennill y ras, wedi iddi gael ei rasio am y tro cyntaf ar ei newydd wedd yn 2004.

Pynciau cysylltiedig