Gemau ail-gyfle Euro 2025: Uchafbwyntiau Cymru 1-1 Gweriniaeth Iwerddon

Mae Cymru'n wynebu talced caled os am fachu lle yn rowndiau terfynol Euro 2025 yn Y Swistir.

Bydd yn rhaid iddyn nhw drechu Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref yn Nulyn pan fydd y ddau dîm yn chwarae ail gymal rownd derfynol y gemau ail-gyfle nos Fawrth.

1-1 oedd y sgôr yn y cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Does fawr rhwng y ddau dîm - pum safle'n unig sy'n eu gwahaniaethu yn rhestr detholion y byd.

Serch hynny, mae'n debyg taw'r Gwyddelod fydd y ffefrynnau nos Fawrth a hwythau â'r fantais o chwarae ar eu tomen eu hunain.

Eto i gyd, fe lwyddodd tîm Rhian Wilkinson i ddal eu tir nos Wener - ac mae'r freuddwyd o greu hanes trwy chwarae yn un o'r prif gystadleuthau am y tro cyntaf yn dal yn fyw.