Eluned Morgan: 'O'dd pobl wedi cael rhybudd' am y storm
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn dweud ei bod hi'n "falch bod pobl wedi cael eu rhybuddio" am Storm Darragh.
Nos Wener, cafodd rhybudd ei anfon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ffonau symudol yn cyngori pobl "i beidio mentro allan oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, oherwydd perygl i fywyd".
Cafodd y rhybudd ei anfon i ffonau pobl yng Ngwynedd, Conwy, Ceredigion, Ynys Môn, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Dywedodd Ms Morgan: "Dwi ddim yn credu y gallen ni wneud mwy i rybuddio pobl."
"Dyma'r tro cyntaf i'r system larwm gael ei ddefnyddio ar raddfa fawr iawn ac felly yn amlwg bydd ganddon ni bethau i'w dysgu o hynny ond dwi'n meddwl odd pobl yn ymwybodol bod storm ar y ffordd a'u bod nhw wedi talu sylw i'r rhybuddion hynny."