A ddylai rhieni gael eu galw i'r ysgol i newid clytiau eu plant?
Mae rhai plant ysgol hyd at wyth oed dal heb ddysgu sut i ddefnyddio'r tŷ bach, yn ôl undebau addysg.
Maen nhw'n dweud bod staff yn treulio gormod o amser yn newid clytiau.
Daw hyn wrth i un cyngor yng Nghymru ddweud y bydd rhieni nawr yn cael eu galw i'r ysgol i newid eu plant, oherwydd y "lefel uchel iawn o ddisgyblion yn dod i'r ysgol mewn cewynnau".
Yn ôl penaethiaid addysg mae cynnydd sylweddol wedi bod ers Covid yn nifer y plant sydd methu defnyddio'r tŷ bach ar eu pen eu hunain pan maen nhw'n dechrau'r ysgol.
Ond mae rhai rhieni'n dweud y gallai'r polisi fod yn "annheg", tra bod un elusen wedi dweud bod angen "stopio beio rhieni" ar adeg pan mae cyllid gwasanaethau cynorthwyol wedi ei dorri.
Tu allan i'r giatiau mewn ysgol yng Nghaerdydd, cymysg oedd y farn.
"Mae'n sefyllfa gymhleth dwi'n meddwl," meddai Elin Timmer.
"Falle mai trio annog pobl i ddysgu eu plant i fynd i'r tŷ bach cyn mynd i'r ysgol yw pwynt y polisi yma, ddim gorfodi rhieni i ddod i mewn."
Yn ôl Lyndon Thomas, mae angen i rieni gymryd mwy o gyfrifoldeb.
"Falle mod i'n hen ffasiwn, ond dwi'n credu dylai rhieni baratoi plant i ddod i'r ysgol heb fod isie newid nappies," meddai.
"Mae digon 'da athrawon i wneud."