Rhai plant ysgol wyth oed 'dal methu defnyddio'r tŷ bach'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai plant ysgol hyd at wyth oed dal heb ddysgu sut i ddefnyddio'r tŷ bach, yn ôl undeb addysg sy'n dweud bod staff yn treulio gormod o amser yn newid clytiau.
Daw hyn wrth i un cyngor yng Nghymru ddweud y bydd rhieni nawr yn cael eu galw i'r ysgol i newid eu plant, oherwydd y "lefel uchel iawn o ddisgyblion yn dod i'r ysgol mewn cewynnau".
Yn ôl penaethiaid addysg mae cynnydd sylweddol wedi bod ers Covid yn nifer y plant sydd methu defnyddio'r tŷ bach ar eu pen eu hunain pan maen nhw'n dechrau'r ysgol.
Ond mae rhai rhieni'n dweud y gallai'r polisi fod yn "annheg", tra bod un elusen wedi dweud bod angen "stopio beio rhieni" ar adeg pan mae cyllid gwasanaethau cynorthwyol wedi ei dorri.
'Nid plant meithrin yn unig'
Mae ffigyrau diweddar gan elusen Kindred yn awgrymu bod un o bob pedwar plentyn ddim yn gallu defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol pan maen nhw'n dechrau'r ysgol, a hynny'n arwain at golli tua traean o'u hamser dysgu.
O ganlyniad mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cyhoeddi polisi newydd, ddaeth i rym yr wythnos hon, lle mae'r pwyslais ar rieni i ddod i mewn i newid eu plant.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor mai cyfrifoldeb rhiant neu warcheidwad oedd "sicrhau bod eu plentyn wedi dysgu defnyddio'r tŷ bach" cyn dechrau yn yr ysgol.
"Mae'r polisi yn dweud y bydd disgwyl i rieni fynd i'r ysgol i newid cewynnau/pull-ups eu plant," meddai'r cyngor.
Ychwanegodd y cyngor: "Dyw'r polisi ddim yn berthnasol i'r rheiny sydd ag angen meddygol wedi'i gydnabod, ble mae tystiolaeth briodol wedi ei darparu.
"Bydd ysgolion yn parhau i gefnogi rhieni a gwarchodwyr pan mae'n dod at hyfforddiant tŷ bach, ac yn gallu eu cyfeirio at gymorth ac help."
Er bod llawer o ysgolion eisoes yn gofyn i rieni sicrhau bod eu plant yn gallu defnyddio'r tŷ bach cyn dechrau yn yr ysgol, mae polisi Blaenau Gwent yn mynd yn bellach yn ôl undebau addysg.
"Dyw hyn ddim am blant meithrin a derbyn yn unig – mae'n haelodau yn dweud wrthym ni bod plant hyd at 7 neu 8 oed, sydd heb anghenion dysgu ychwanegol na chyflyrau meddygol, yn cael trafferthion mynd i'r tŷ bach," meddai Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol NAHT Cymru.
"Rydyn ni'n canmol Blaenau Gwent am fod yn ddigon dewr i gymryd y cam yma, ac fe fydden ni'n annog awdurdodau lleol eraill, sydd efallai'n wynebu heriau tebyg, i wneud yr un peth."
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
Ychwanegodd Ms Doel ei bod hi'n "argyfwng" mewn rhai ysgolion, a bod yr amser mae'n ei gymryd i newid cewynnau plant yn "tarfu'n fawr" ar staff.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod eu ffocws ar ddysgu... ac felly maen nhw'n gofyn am gefnogaeth gan deuluoedd ac asiantaethau eraill i ddod a chefnogi'r plant penodol yna," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ormod i ofyn."
'Mae digon 'da athrawon i wneud'
Yn Nhredegar, Blaenau Gwent, roedd rhai rhieni dal yn amheus o'r polisi newydd.
"Roedden nhw wedi ffonio fi heddiw am fod fy merch wedi gwlychu ei hun," meddai Daniel Derrick. "Mae e'n drafferthus mewn gwirionedd.
"Roedd rhaid i ni ddod i'w 'nôl hi'n gynnar – lwcus mod i ddim yn gweithio heddiw."
Ychwanegodd Gavin Wise, oedd yn casglu ei wŷr, fod y polisi yn "annheg".
"Os yw'r plentyn yn yr ysgol, dyna pam maen nhw yna i fod, i gael eu gofalu amdano," meddai. "Bydden i'n dweud fod e'n rhan o'r swydd."
Tu allan i'r giatiau ysgol yng Nghaerdydd, cymysg oedd y farn.
"Mae'n sefyllfa gymhleth dwi'n meddwl," meddai Elin Timmer.
"Falle mai trio annog pobl i ddysgu eu plant i fynd i'r tŷ bach cyn mynd i'r ysgol yw pwynt y polisi yma, ddim gorfodi rhieni i ddod i mewn."
Yn ôl Lyndon Thomas, mae angen i rieni gymryd mwy o gyfrifoldeb.
"Falle mod i'n hen ffasiwn, ond dwi'n credu dylai rhieni baratoi plant i ddod i'r ysgol heb fod isie newid nappies," meddai.
"Mae digon 'da athrawon i wneud."
'Peidiwch beio rhieni'
Yn ôl Claire Armitstead o ASCL Cymru, sy'n cynrychioli penaethiaid, mae "cynnydd mawr" wedi bod ers y pandemig yn nifer y plant sydd angen help i fynd i'r tŷ bach.
Ychwanegodd nad gosod "rhieni yn erbyn ysgolion" oedd bwriad y polisi, ac mai'r pryder mwyaf yw'r amser mae'n ei gymryd i athrawon, nid eu bod nhw'n anfodlon helpu.
"Dros Gymru gyfan mae nifer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd, achos does ganddyn nhw mo'r arian na'r adnoddau i barhau i helpu plant yn y modd yma," meddai.
"Os oes gen i bump cynorthwyydd yn fy ysgol, a phedwar ohonyn nhw'n helpu plant heb anghenion i ddefnyddio'r tŷ bach, dydyn nhw ddim yno i gefnogi gyda'r addysg.
"Mae angen i asiantaethau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gan bobl y gefnogaeth iawn i baratoi eu plant ar gyfer yr ysgol."
Yn ôl ERIC, elusen pledren a choluddyn plant, mae "llai o gyfleoedd nawr" i rieni droi am gymorth.
"Mae effaith y pandemig a thoriadau i wasanaethau plant elfennol yn y blynyddoedd diweddar wedi cyfrannu at y broblem, ac os nad yw hyn yn cael ei daclo'n fuan, gallai gael effaith ddifrifol ar iechyd ac addysg plant," meddai Juliette Rayner, prif weithredwr yr elusen.
Ychwanegodd fod galwadau i'w llinell gymorth wedi treblu dros y pum mlynedd ddiwethaf, ond na ddylai "ddisgyn i elusennau fel ni – nac ysgolion chwaith – i glirio'r llanast unwaith mae problem wedi mynd yn rhy fawr i'w reoli".
"Mae'n bryd rhoi'r gorau i feio rhieni, a sicrhau bod gan wasanaethau lleol ddigon o adnoddau i helpu gyda hyfforddiant tŷ bach, yn ogystal â chymorth i'r rheiny sy'n cael problemau pledren a choluddyn – cyn ei bod hi'n rhy hwyr."
Mae prifathro yng Ngwynedd yn cytuno bod "straen fawr ar ysgolion" yn sgil "cynnydd enfawr" yn nifer y plant na sy'n gallu mynd i'r tŷ bach yn annibynnol wrth ddechrau yn yr ysgol.
"Mae'r broblem 'di dechra' cynyddu ymhell cyn Covid," yn ôl Judith Owen - pennaeth Ysgol Gynradd Rhosgadfan ger Caernarfon, sydd hefyd yn berchen ar feithrinfa yn yr ardal.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod plant yn arfer gorfod bod allan o'u cewynnau cyn cael mynd i gylch meithrin, ond ers llacio'r amod hwnnw mae rhai rhieni'n "meddwl 'sgena i'm brys i orfod 'neud hyn dim mwy'".
"Yn ein hysgol ni 'dan ni'n trio o'r dechra' i gydweithio efo rhieni," meddai, gan gynnal cyfarfodydd wythnosol mewn rhai achosion "i gyflwyno rywfaint o sgiliau" i gael plant allan o'u cewynnau neu pull-ups.
Er nad yw hynny'n rhan swyddogol o'u rôl fel staff addysgol, dywedodd eu bod yn fodlon mynd gam yn ychwanegol "er lles plant [ond] mae o'n siwrne ac yn cymryd lot fawr o amser yr athro neu'r pennaeth i gynnal y cyfarfodydd".
"Mae 'na duedd, dwi'n meddwl, yn y gynhedlaeth 'fengach i feddwl bod bob dim sydd angen ei 'neud yn gyfrifoldeb ar rywun arall bob tro," ychwanegodd.
Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma.