Prifysgol Bangor yn 'gobeithio osgoi diswyddiadau gorfodol'
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bod yn rhagweld y bydd "tua 200 o swyddi" yn cael eu torri wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m.
Mewn e-bost at staff ddydd Mercher fe ddywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, fod y sefyllfa sy'n wynebu Prifysgolion Cymru yn un "ddigynsail" ac y byddai'n ymestyn y "cynllun diswyddo gwirfoddol ar draws y brifysgol".
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Andrew Edwards: "Mae o'n ddiwrnod anodd iawn.
"Ym mis Hydref y llynedd, mi nathon ni ddeud bod gynnon ni broblem ariannol a'n bod ni'n ceisio datrys y broblem.
"Bryd hynny, aethon ni at staff efo cynllun diswyddo gwirfoddol ond 'da ni heb gael digon o bobl eto i gymryd mantais o'r cynnig yna.
"'Da ni wedi mynd 'nôl at staff heddiw yn egluro'r sefyllfa - bo' ni angen arbed £15m - a ma' hynna'n golygu bod dal tua 200 o swyddi yn y fantol."