Prifysgol Bangor i dorri 'tua 200 o swyddi' i arbed £15m

- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bod yn rhagweld y bydd "tua 200 o swyddi" yn cael eu torri wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m.
Mewn e-bost at staff ddydd Mercher fe ddywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, fod y sefyllfa sy'n wynebu Prifysgolion Cymru yn un "ddigynsail" ac y byddai'n ymestyn y "cynllun diswyddo gwirfoddol ar draws y brifysgol".
Wrth gyfiawnhau'r arbedion dywedodd yr Athro Burke fod gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, cynnydd mewn costau a newidiadau i yswiriant gwladol gan Lywodraeth y DU wedi golygu bod angen iddyn nhw wneud arbedion sylweddol.
Prifysgol Bangor yw'r sefydliad diweddaraf sy'n edrych ar wneud arbedion sylweddol yn sgil heriau ariannol o fewn y sector.
Hefyd ddydd Mercher, dywedodd Prifysgol De Cymru eu bod yn bwriadu torri 90 swydd a chael gwared ar rai pynciau yn sgil heriau ariannol.
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Andrew Edwards: "Mae o'n ddiwrnod anodd iawn. Ym mis Hydref y llynedd, mi nathon ni ddeud bod gynnon ni broblem ariannol a'n bod ni'n ceisio datrys y broblem.
"Bryd hynny, aethon ni at staff efo cynllun diswyddo gwirfoddol ond 'da ni heb gael digon o bobl eto i gymryd mantais o'r cynnig yna.
"'Da ni wedi mynd 'nôl at staff heddiw yn egluro'r sefyllfa - bo' ni angen arbed £15m - a ma' hynna'n golygu bod dal tua 200 o swyddi yn y fantol."
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards fod y brifysgol yn gobeithio "osgoi" diswyddiadau gorfodol
Ychwanegodd yr Athro Edwards eu bod yn gobeithio "osgoi" diswyddiadau gorfodol.
"Da ni'n gobeithio dros y mis nesa' gawn ni fwy o drafodaethau... sy'n golygu ein bod ni'n osgoi hynny [diswyddiadau gorfodol]. Mae'n mynd i fod yn anodd, mae'n heriol achos 'da ni angen symud yn gyflym ond y gobaith ydi na fydd hynny'n gorfod digwydd."
Dywedodd ei fod hefyd yn derbyn "nad ydi'r sefyllfa yn grêt i staff".
"Mae pobl yn poeni ac yn enwedig y tro 'ma, gan fod prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi toriadau, ma' rhywun yn disgwyl am yr effaith ar ein prifysgol ni.
"Mae'r model cyllido fel mae o yn golygu bod hyn wedi digwydd tro ar ôl tro. Dydi ffioedd myfyrwyr heb dyfu efo'r ffordd 'da ni'n gwario pres felly dydi'n incwm ni ddim yn cyrraedd ein gwariant ni a dydi hynya ddim yn rhywbeth all barhau."
"Mae'r model yma wedi torri a 'da ni angen datrys hynny."

Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru, Vikki Howells wedi dweud y byddai £19m ychwanegol ar gael i'r sector addysg uwch
Dydd Mawrth fe wnaeth Ysgrifennydd Addysg Cymru ofyn i brifysgolion "ystyried pob opsiwn", gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn er mwyn osgoi torri swyddi.
Fe gyhoeddodd Vikki Howells y byddai £19m ychwanegol ar gael i'r sector addysg uwch, er iddi ddweud yn gynharach yn y mis nad oedd rhagor o arian ar gael.
Mae gan Brifysgol Bangor tua 10,000 o fyfyrwyr.
Y gred yw bod tua 650 o staff academaidd yn gweithio i'r sefydliad ar hyn o bryd, ond mae'r toriadau yn ymwneud ag aelodau eraill o staff hefyd.
Mae staff wedi cael gwahoddiad i gyfarfod gyda phenaethiaid brynhawn Mercher er mwyn trafod y newidiadau arfaethedig, a rhoi cyfle iddyn nhw fynegi pryderon.
'Lleihau lefelau staffio'
Yn y llythyr a gafodd ei anfon at staff, mae'r brifysgol yn nodi pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn gwneud arbedion o £15m.
Yn ogystal ag ymestyn y cynllun diswyddo gwirfoddol i'r brifysgol gyfan tan ddiwedd mis Mawrth, mae'r llythyr yn nodi hefyd "bod angen lleihau lefelau staffio mewn rhai ysgolion penodol" yn sgil y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr.
Does dim manylion ar hyn o bryd o ran pa ysgolion ac adrannau fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, ond maen nhw'n nodi eu bod yn ceisio gwneud arbedion o fewn pob tîm yn y gwasanaethau proffesiynol.

Mae'r brifysgol hefyd yn ystyried "lleihau maint yr ystâd" sy'n cael ei defnyddio
Mae'r sefydliad hefyd yn dweud eu bod nhw'n bwriadu "lleihau maint yr ystâd" y maen nhw'n ei defnyddio.
"Rydym eisoes wedi lleihau oriau agor a gwresogi rhai adeiladau, ac mae ein cydweithwyr wedi symud allan o adeiladau eraill fel nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach," meddai'r brifysgol yn y llythyr.
Maen nhw'n nodi hefyd fod y broses o werthu eiddo "nad oes eu hangen arnom mwyach" eisoes wedi dechrau.
Does dim manylion wedi eu rhannu o ran pa adeiladau sydd dan ystyriaeth.
'Hanfodol gweithredu nawr'
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke fod yr heriau ariannol sy'n wynebu'r brifysgol yn "sylweddol iawn".
"Yn hydref 2024, roedd ein mewnlif ni o fyfyrwyr yn llai nag yn 2023, ac ni wnaethom gyrraedd y targed cyllidebol a oedd wedi ei osod," meddai.
"Roedd ein mewnlif israddedig cartref 7% yn llai ac, o eithrio Meddygaeth, roedd 11% yn llai.
"Roedd ein mewnlif rhyngwladol hefyd yn llai, gyda'n mewnlif o ôl-raddedigion rhyngwladol ym mis Medi tua hanner y mewnlif yn 2023.
"Gan fod dyddiad cau ceisiadau UCAS wedi bod, gallwn weld bod gostyngiad pellach ym maint y mewnlif o fyfyrwyr yn debygol yn 2025, gyda cheisiadau 2% yn is na 2024, neu 6% yn is o eithrio Meddygaeth.
"O ganlyniad, mae ein sefyllfa ariannol wedi gwanhau ymhellach.
"Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd rhagor o gamau i gysoni ein costau â'r gostyngiad mewn incwm yr ydym yn ei ragweld yn y blynyddoedd i ddod.
"Er bod gennym rywfaint o gronfeydd arian parod, mae'n hanfodol gweithredu nawr i atal y cronfeydd hynny rhag gostwng i lefelau anghynaladwy."

Mae'r brifysgol yn rhan hanfodol o'r economi leol, meddai Siân Gwenllian
Wrth ymateb i'r toriadau, dywedodd yr Aelod lleol o'r Senedd, Siân Gwenllian o Blaid Cymru fod y cyhoeddiad yn "drychinebus".
"Mae diffyg ariannol ar y raddfa hon yn newyddion hynod bryderus, nid yn unig i staff y brifysgol a'r 10,000 o fyfyrwyr, ond i'r gymuned ehangach hefyd," meddai.
"Mae'r brifysgol yn rhan hanfodol o'r economi leol, yn cyflogi tua 2,000 o staff, ac mae unrhyw doriadau yn mynd i gael effaith drychinebus ar fy etholaeth.
"Ar lefel genedlaethol, mae Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei darpariaeth Gymraeg, ac mae cynaliadwyedd y brifysgol yn hanfodol i ffyniant ein hiaith.
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi claddu eu pennau yn y tywod ers yn llawer rhy hir o ran cyllid i Addysg Uwch.
"Mae angen diwygio'r model ariannu presennol yn sylfaenol er mwyn achub ein prifysgolion."
'Llafur yn peryglu dyfodol ein sefydliadau'
Ychwanegodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar bod y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn "taflu pwysau mawr ar ddiwydiannau leded Cymru".
"Mae llai o fuddsoddiad a mwy o drethu gan Lafur yn peryglu dyfodol ein sefydliadau, eu staff a myfyrwyr," meddai.
Gan hefyd feirniadu'r llywodraeth, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am adolygiad i ariannu addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi bod yn glir y dylid diwygio'r sector addysg uwch.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda deddfwriaeth newydd yn ei le a chreu [corff newydd] Medr.
"Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi £18.5m ar gyfer prifysgolion i'w helpu i leihau costau gweithredu.
"Rydym yn deall y pryderon ynghylch y sector addysg uwch a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar staff a dysgwyr yn y sefydliadau yma."