Gareth Davies: Y fuddugoliaeth yn un 'bwysig' i Gymru

Ar ôl i dîm rygbi Cymru ennill am y tro cyntaf mewn 10 gêm, mae'r mewnwr Gareth Davies yn dweud fod y tymor hwn wedi bod yn un "caled".

Fe wnaeth Cymru ennill o 36-35 yn erbyn y Queensland Reds mewn gêm gyfeillgar ddramatig yn Brisbane ddydd Gwener.

Mae’r fuddugoliaeth - y gyntaf ers Tachwedd 2023 i dîm Warren Gatland - yn dod â’u taith haf i Awstralia i ben ar nodyn cadarnhaol, wedi’r siom o golli’r ddwy gêm brawf yn erbyn Y Wallabies.

Wedi'r gêm, dywedodd Davies, oedd yn gapten ddydd Gwener: "Roedd hi'n fuddugoliaeth a 'na'r peth pwysicaf i ni fel grŵp, mae wedi bod yn dymor caled i ni.

"Roedd lot o ardaloedd o’r gêm lle o' ni'n teimlo'n weddol gyfforddus ond yn anffodus wnetho' ni roi gormod o penalties bant".

Aeth ymlaen i ddweud: "Ro' ni'n teimlo fel grŵp yn weddol gyfforddus am ran fwyaf o'r gêm" gan ychwanegu fod y fuddugoliaeth hon yn un "bwysig" iddyn nhw.