Buddugoliaeth hwyr i Gymru yn erbyn Queensland Reds

Rio Dyer yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Rio Dyer yn sgorio cais i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi Cymru wedi ennill am y tro cyntaf mewn 10 gêm, ar ôl curo Queensland Reds mewn gêm gyfeillgar ddramatig yn Brisbane o 36-35.

Ac mae’r fuddugoliaeth - y gyntaf ers Tachwedd 2023 i dîm Warren Gatland - yn dod â’u taith haf i Awstralia i ben ar nodyn cadarnhaol, wedi’r siom o golli’r ddwy gêm brawf yn erbyn Y Wallabies.

Ond cyn y gic gyntaf, fe ddaeth y newyddion bod y capten Cory Hill wedi tynnu ‘nôl o’r gêm “am resymau personol”.

Cafodd y penderfyniad i'w enwi yn gapten ei feirniadu gan nifer, oherwydd ei gysylltiad â digwyddiad ‘nôl yn 2021 ble cafodd difrod ei achosi i gartref menyw yn Rhondda Cynon Taf gan griw o ddynion.

Dafydd Jenkins wnaeth ddechrau yn yr ail-reng yn ei le, y mewnwr Gareth Davies gafodd ei wneud yn gapten, gyda’r bachwr Dewi Lake yn cael ei gynnwys ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Cymru mewn 10 gêm, a’r gyntaf ers Tachwedd 2023

Gyda phum munud yn unig o’r gêm wedi chwarae, fe sgoriodd y prop pen tynn Archie Griffin - gafodd ei eni'n Sydney - cais cynta'r gêm.

Fe fethodd y maswr Sam Costelow â’r trosiad, cyn i’r tîm cartref gael eu cais cyntaf nhw, gan fynd ar y blaen o 7-5 wedi chwarter awr.

Yna, yn ei gêm broffesiynol gyntaf yn chwarae rygbi’r undeb, fe groesodd Regan Grace, gan arddangos ei gyflymdra a’i sgiliau wrth dirio i’r crysau cochion, er mewn du roedden nhw’n chwarae heddiw.

Gydag ond 21 munud ar y cloc, daeth trydydd cais i Gymru, gyda’r asgellwr Rio Dyer y tro hwn yn croesi.

Taro ‘nôl eto wnaeth y tîm cartref, ond roedd ‘na fwy o gyffro i ddod, a sgarmes symudol gryf Cymru’n gweld y blaenasgellwr Christ Tshiunza yn sgorio eu pedwerydd cais o’r gêm, gan fynd mewn i’r egwyl ar y blaen o 24 pwynt i 14.

Ail hanner nerfus

Sgoriodd canolwr Cymru Nick Tompkins bumed cais i'r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner, cyn i fachwr Queensland Reds, Richie Asiata dirio am hatric o geisiau i’w dîm.

Daeth pedwerydd cais y Reds wedi awr o chwarae, a thriphwynt yn unig yn gwahanu'r ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n gêm hynod gyffrous gyda'r ddau dîm yn chwarae rygbi ymosodol

Ond roedd y pwysau’n cynyddu ar Gatland a’i dîm yn dilyn pumed cais i’r Reds.

Wedi cyfnod o fygythiad ymosodol gan Gymru ar eu llinell nhw’u hunain, llwyddodd y tîm cartref’ i ddwyn y bêl a gwrthymosod cyn llwyddo â throsgais i’w rhoi nhw bedwar pwynt yn glir gyda llai na deng munud yn weddill i’w chwarae.

Gyda'r cloc yn agosáu at yr 80, fe sgoriodd yr eilydd fewnwr Kieran Hardy i roi buddugoliaeth nerfus o bwynt i Gymru, o 36 i 35.

A’r fuddugoliaeth yn un yr oedd Cymru, a Warren Gatland, ei hangen yn ddirfawr.

Roedd y rhyddhad yn amlwg wrth iddyn nhw orffen tymor hir o rygbi, gan ddychwelyd adref wedi ennill. O’r diwedd.

Gatland: 'Anghywir' i benodi Hill yn gapten

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ei fod wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth ddewis Cory Hill fel capten ar gyfer y gêm.

Wedi'r fuddugoliaeth ddydd Gwener, dywedodd Gatland ei fod wedi dewis Hill oherwydd "y gwaith y mae wedi ei wneud allan fan hyn. Penderfyniad ar sail rygbi oedd hwn".

"Mae wedi bod yn hollol ardderchog ers iddo fod allan yma o ran ei arweiniad, ei brofiad a sut mae wedi helpu'r chwaraewyr iau," meddai.

Er hyn, aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "cyfaddef na ddylwn i fod wedi ei roi yn y sefyllfa yna" gan ychwanegu nad oedd wedi ystyried yr ymateb negyddol posib.

Dywedodd Gatland fod y "ffeithiau yn dangos nad oedd wedi ei arestio na'i gyhuddo. Mae wedi cydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gatland yn dweud ei bod hi'n bosib y gallai Hill gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2027

Dywedodd Gatland nad oedd Prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, na'r Prif Gyfarwyddwr Rygbi, Nigel Walker, wedi bod yn rhan o unrhyw benderfyniadau rygbi'r wythnos hon.

Fe wnaeth Hill gydnabod ei fod yn difaru'r digwyddiad yn 2021 gan ymddiheuro'n gyhoeddus mewn cynhadledd i'r wasg wedi iddo gael ei enwi'n gapten.

Roedd Gatland o'r farn bod "nifer o athletwyr wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg" a'u bod bellach nôl yn chwarae.

"Ro' ni'n meddwl ei fod yn grêt ddydd Mercher, fod ei ymddiheuriad yn dod o'r galon ynghylch rhywbeth oedd wedi digwydd tair blynedd yn ôl."