Llywydd y Dydd: 'Mae 'na argyfwng iechyd meddwl'

Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd wedi dweud ei fod wedi cael "profiadau ofnadwy iechyd meddwl".

Fe ddefnyddiodd Guto Rhun, sy'n gomisiynydd gyda S4C, ei araith fel llywydd i drafod iechyd meddwl, ac mae'n erfyn ar eraill i fod yn agored hefyd.

Dywedodd Guto ei fod yn falch o weld y gwaith mae'r Urdd wedi'i gyflawni i godi ymwybyddiaeth a hybu trafodaethau am iechyd meddwl.

Mae'r Urdd wedi ehangu eu darpariaeth eleni gan lansio partneriaeth gyda band Eden i roi hyder i bobl ifanc ddathlu eu hunain a'r hyn sy'n eu gwneud yn unigryw.