Yr Urdd ac ymgyrch PABO Eden yn lansio partneriaeth
- Cyhoeddwyd
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod mae Eden yn lansio partneriaeth newydd gyda'r mudiad i ddathlu hunaniaeth a chynhwysiant.
Fe wnaeth y band pop lansio prosiect Paid  Bod Ofn (PABO) yn gynharach eleni, gyda'r weledigaeth o "ddysgu, deall a dathlu".
Nod partneriaeth yr Urdd gyda PABO, yw rhoi hyder i bobl ifanc ddathlu eu hunain a'r hyn sy'n eu gwneud yn unigryw.
Daw'r bartneriaeth newydd wrth i ffigyrau newydd ddangos fod dros 1,000 o bobl ifanc wedi cael eu cyfeirio ar gyfer asesiad mewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol bob mis eleni.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o gymorth i leihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol.
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Wedi’i leoli yn ardal Nant Caredig ar y maes - ardal lles a man tawel i gael saib - mae llwyfan ‘Sa Neb Fel Ti’ yn atyniad newydd.
Pwrpas y llwyfan, yn ôl yr Urdd, yw i unigolion berfformio heb orfod cystadlu, i fagu hunan hyder, ynghyd â chlywed sgyrsiau a chymryd rhan mewn sesiynau sy’n eu dysgu i fod yn gyfforddus yn eu croen eu hun.
Mae Non Parry, o'r grŵp pop Eden, wedi siarad yn gyhoeddus yn y gorffennol am y ffaith ei bod hi wedi dioddef gydag anhwylderau iechyd meddwl.
"'Naeth hedyn PABO ddod o Eisteddfod Llanrwst pan nethon ni grysau-t ‘Paid â bod ofn’," meddai.
"'Naeth gymaint o bobl gysylltu gyda ni, eisiau rhannu eu rhesymau nhw am brynu’r crysau-t yna, a bod nhw eisiau bod yn agored a rhannu ychydig am eu bywydau nhw efo ni.
"Felly roedden ni’n teimlo fel rhyw fath o gymuned fach, ac roedden ni eisiau creu gofod i hynna.
"Gofod saff, cynhwysol a ‘da ni’n gobeithio mai dyna mae PABO yn mynd i wneud.”
Ymateb 'cadarnhaol iawn'
Mae ardal lles Nant Caredig, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, yn cael ei redeg trwy gymorth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Yn ôl Dafydd Huw, rheolwr polisi materion cyhoeddus y Coleg yng Nghymru, mae’n bartneriaeth bwysig i godi proffil iechyd meddwl a niwroamrywiaeth ymysg pobl ifanc.
“Mae darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a hunan hyder yn elfennau pwysig o sicrhau lles pobl ifanc,” meddai.
“Mae ymyriadau ataliol fel hyn yn rhan bwysig o waith y coleg yn ogystal â helpu unigolion sydd angen y gwasanaethau mwy arbenigol hynny hefyd.
"Mae’r ymateb ar y maes wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae pobl yn falch bod iechyd meddwl yn cael ei gymryd o ddifri'.
"Mae’r wythnos wedi datblygu cyfleoedd i bobl i siarad yn agored gydag eraill a hynny mewn man diogel, sy’n hynod bwysig.”
Yn nhri mis cyntaf 2024, mae’r atgyfeiriadau ar gyfer asesiad mewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar gyfer pobl ifanc wedi bod yn gyson dros 1,000 y mis., dolen allanol
Fis Mawrth 2024, sef y ffigwr diweddaraf ar gofnod, cafodd 1,120 o atgyfeiriadau eu gwneud ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed.
Yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, mae "heriau parhaus" wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.
'Pawb yn gwneud eu gorau'
Ychwanegodd Dafydd Huw: “Mae’n clinigwyr ni yn adrodd bod heriau parhaus o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
“Mae’r galw dal yn uchel ond rydym ni’n gweld bod y gwasanaeth 111 opsiwn 2 yn cael ei ddefnyddio’n ehangach wrth i ymwybyddiaeth gynyddu," meddai.
"Mae hynny’n amlwg yn gadarnhaol gan ei fod yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Mae pawb yn gwneud eu gorau o fewn y system iechyd i drio datrys y problemau ac i ymdopi ac ateb y galw.”
- Cyhoeddwyd30 Mai
- Cyhoeddwyd30 Mai
- Cyhoeddwyd29 Mai
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gweld o fewn pedair wythnos ac mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i leihau amseroedd aros.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o gymorth i leihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol, fel mynediad ar-lein at gymorth iechyd meddwl a chymorth mewn ysgolion.
"Rydym yn darparu £13.6m eleni i gefnogi ysgolion i weithredu'r dull ysgol gyfan.
"Bydd hyn yn galluogi ysgolion i ehangu a gwella cwnsela ysgolion, darparu ymyriadau llesiant cyffredinol ac wedi'u targedu a hyfforddi staff ysgolion.
"Bydd hefyd yn galluogi cymorth parhaus i fyrddau iechyd i ddarparu addysg CAMHS ar draws Cymru, gydag ymarferwyr iechyd meddwl penodol ar gael mewn ysgolion sy'n darparu ymgynghori, cyswllt, cyngor a hyfforddiant.
"Mae ein strategaeth iechyd meddwl ddrafft allan ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghori ac mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc."