Cofio'r Pab Ffransis yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r Pab Ffransis, arweinydd yr Eglwys Gatholig, wedi marw yn 88 oed yn dilyn strôc, meddai'r Fatican.
Daw'r cyhoeddiad wedi iddo wneud ymddangosiad yn Sgwâr San Pedr ddydd Sul i ddymuno "Pasg hapus" i filoedd o bobl.
Roedd wedi bod yn wael dros y misoedd diwethaf, ac wedi treulio rhai wythnosau yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am niwmonia.
Adroddiad Jacob Morris.