Marwolaeth y Pab Francis: Yr ymateb o Gymru

Y Pab FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Pab Francis oedd y cyntaf o America Ladin a'r un cyntaf o du allan i Ewrop ers 1,000 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Pab Francis, arweinydd yr Eglwys Gatholig, wedi marw yn 88 oed, meddai'r Fatican.

Dywedodd y Cardinal Kevin Farrell mewn datganiad fod "Esgob Rhufain wedi marw am 07:35, amser lleol" a'i fod wedi "dychwelyd i Dŷ'r Tad".

Daw'r cyhoeddiad wedi iddo wneud ymddangosiad yn Sgwâr San Pedr ddydd Sul i ddymuno "Pasg hapus" i filoedd o bobl.

Roedd wedi bod yn wael dros y misoedd diwethaf, ac wedi treulio rhai wythnosau yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am niwmonia.

'Arwain gyda dewrder a thosturi'

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ymhlith yr arweinwyr gwleidyddol i roi teyrnged i'r Pab, gan gydymdeimlo hefyd gyda'r gymuned Gatholig yng Nghymru a thrwy'r byd.

"Fe wnaeth y Pab Francis arwain gyda gostyngeiddrwydd diwyro, dewrder a thosturi," meddai mewn datganiad.

"Drwy gydol ei gyfnod fel Pab bu'n eiriolwr diflino dros y tlawd, pobl ar y cyrion a'r rhai sydd wedi eu dadleoli.

"Atgoffodd bob un ohonom nad tasg wleidyddol neu gymdeithasol yn unig yw'r frwydr yn erbyn tlodi, newid hinsawdd ac anghyfiawnder, ond galwad foesol.

"Roedd ei neges yn glir: mae pob person, waeth beth fo'u cefndir, hil, neu rywioldeb, yn haeddu urddas, parch a chariad."

Y Pab FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Pab Francis o flaen torfeydd mawr yn y Fatican mewn gwasanaeth ddydd Iau

Roedd Jorge Mario Bergoglio, oedd yn cael ei adnabod fel y Pab Francis I, yn dod o Buenos Aires yn yr Ariannin.

Cafodd ei ethol yn Bab ym mis Mawrth 2013.

Roedd yn ymgeisydd hefyd pan gafodd y Pab Benedict XVI ei ethol yn 2005.

Ef oedd y Pab cyntaf o America Ladin a'r un cyntaf o du allan i Ewrop ers 1,000 o flynyddoedd.

'Ffydd wedi'i gwreiddio mewn cariad'

Ychwanegodd Ms Morgan: "Roedd ei alwad enwog i 'beidio â barnu, ond cerdded gyda' yn enghreifftio ffydd wedi'i gwreiddio mewn cariad, empathi a dealltwriaeth at bawb, gan ganolbwyntio ar dosturi yn hytrach na chondemniad.

"Mewn byd sy'n aml yn teimlo'n rhanedig, adeiladodd y Pab Ffransis bontydd o undod a bydd ei etifeddiaeth yn parhau yn y bywydau y cyffyrddodd â nhw a'r gwerthoedd a hyrwyddodd - gwerthoedd sy'n parhau i'n hysbrydoli ni yma yng Nghymru.

"Boed iddo orffwys mewn heddwch, a bydded i'w esiampl barhau i'n harwain a'n hysbrydoli ni i gyd."

Mark O'Toole
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y Pab yn cael ei gofio fel un wnaeth adeiladu pontydd, meddai'r Archesgob Mark O'Toole

Dywedodd yr Archesgob Mark O'Toole o'r Eglwys Gatholig yng Nghymru bod teimladau o dristwch a cholled wedi cymysgu â diolchgarwch yn dilyn y farwolaeth.

"Mae dywediad yn Gymraeg; A Fo Ben Bid Bont. I fod yn arweinydd, rhaid adeiladu pontydd", meddai.

"Ac un o deitlau hanesyddol y Pab yw Pontifex, sy'n Lladin ac yn golygu adeiladwr pontydd.

"A dwi'n meddwl bod y Pab yn wir yn ddyn wnaeth adeiladu pontydd rhwng pobl o wahanol gefndiroedd a chredoau a phobl sydd heb ffydd..."

Ychwanegodd y bydd yn cael ei gofio fel arweinydd: "Nid gymaint am y seremoniau... ond am ei wasanaeth cariadus."

Y Pab FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Archesgob Cymru, Andy John fod y Pab wedi bod "yn ysbrydoliaeth i filiynau".

"Gyda'i farwolaeth, mae'r byd wedi colli arweinydd yr oedd ei gariad, ei dosturi a'i ofal dros y tlawd a'r rhai ar yr ymylon yn deilwng o'r Sant y dewisodd cymryd ei enw.

"Mae gennyf atgofion hapus iawn o'n cyfarfod yn y Fatican fis Rhagfyr 2023 pan siaradom am Gymru a phan gyflwynais anrheg symbolaidd iddo.

"Yng Nghymru, cawn atgof parhaol o'i haelioni gyda'r rhodd o ddarn o'r Wir Groes, sydd wedi'i ymgorffori yng Nghroes ddefodol Cymru a arweiniodd orymdaith y Coroni ac sydd bellach yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a Chatholig yng Nghymru."

Dywedodd Arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn cydymdeimlo yn arw gyda Chatholigion ar hyd Cymru ac ar draws y byd".

"Fe ges i'r fraint o gwrdd â'r Pab Francis ym mis Awst y llynedd. Roedd hwyliau da arno, ac fe siaradodd gydag angerdd am heddwch, cymodi a chyfiawnder," meddai.

"Roedd wir yn ddyn rhyfeddol oedd yn caru Iesu, ac oedd wedi rhoi ei fywyd i wasanaethu'r Eglwys."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod neges y Pab ddydd Sul yn "hynod amserol", a'i fod yn "siarad dros heddwch... siarad dros y tlawd, ac roedd o'n siarad dros leiafrifoedd, ac mi fydd ei lais yn sicr yn cael ei golli yn y byd sydd ohoni hi".

Ychwanegodd bod y Pab yn "deall pwysigrwydd i bobl sydd mewn safle o rym, mewn safle sylanwadol, i sicrhau eu bod nhw'n defnyddio eu dylanwad nhw dros heddwch, a dros y bobl sydd fel arall heb leisiau".

Pynciau cysylltiedig