RSV: 'Naeth fy mab fynd yn sâl yn rili cyflym'

Dywed meddyg teulu o Gaerdydd ei fod yn croesawu rhaglen frechu yn erbyn RSV, a hynny wedi i'w fab ei hun gael ei daro gan y feirws rai blynyddoedd yn ôl.

O ddydd Llun, mae mamau beichiog a phobl dros 75 oed yn cael gwahoddiad i fynd am frechiad i'w gwarchod rhag feirws RSV.

Yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf dywed Dr Huw Williams ei fod yn gweld dwsinau o bobl gyda'r feirws ac ychwanegodd bod Gethin, ei fab ef ei hun, wedi mynd yn sâl yn sydyn wedi iddo ei ddal.

Roedd y cyfan yn "brofiad brawychus", meddai.