Croesawu rhaglen frechu RSV wedi salwch 'brawychus' mab

Disgrifiad,

Dr Huw Williams fu'n trafod salwch ei fab, Gethin, rhai blynyddoedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

O ddydd Llun, mae mamau beichiog a phobl dros 75 oed yn cael gwahoddiad am frechiad i'w gwarchod rhag feirws RSV.

Mae'r feirws yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn yng Nghymru bob blwyddyn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru bydd y rhaglen frechu yn "achub bywydau" ac yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus.

Pwysleisiodd un meddyg teulu o Gaerdydd, welodd ei fab ei hun yn mynd yn sâl iawn gyda'r feirws, bwysigrwydd cael y brechiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Huw Williams yn dweud bod y cyfnod roedd ei fab yn yr ysbyty gydag RSV yn "frawychus"

Yn feddyg teulu yng Nghaerdydd, cafodd Dr Huw Williams a’i wraig Clare, brofiad “brawychus” ar ol i’w mab oedd bron yn flwydd oed ar y pryd, gael trafferthion anadlu.

Disgrifiodd sut y bu’n rhaid rhuthro Gethin i’r ysbyty a’r ôl i’w gyflwr ddirywio’n gyflym.

“I ddechre, ro'dd e fel annwyd cyffredin, ro'dd ei drwyn e’n rhedeg, o'dd tymheredd da fe, o'dd ei foche fe’n goch, bach o beswch ond dim byd mwy difrifol â hynny ond nath e fynd yn fwy sâl yn rili gyflym.

“Roedd ei anadlu e’n rili drwm ac roedd e’n anadlu’n swnllyd, ro'n i’n gallu clywed e drwy ddrws ei ‘stafell wely,” meddai.

“Y peth mwya brawychus oedd y ffaith ei fod wedi mynd mor wael yn gyflym, mewn tua tair neu bedair awr a'th e o gael annwyd arferol i angen bod mewn ysbyty a chael ocsigen.”

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Gethin Williams fynd i'r ysbyty am driniaeth oherwydd RSV

Ar ôl cyrraedd yr ysbyty fe ddechreuodd Gethin anadlu'n wahanol.

“Roedd e’n anadlu’n lot cyflymach nag oedd e' fel arfer, o'dd ei fola fe’n mynd mewn a mas yn rili gyflym i helpu fe anadlu,” meddai Huw.

Ychwanegodd bod y croen yn cael ei sugno i mewn ac allan rhwng yr asennau oedd yn arwydd meddai o pa mor galed roedd Gethin yn gorfod gweithio i anadlu.

Dywedodd Huw eu bod nhw’n lwcus nad oedd y ward yn yr ysbyty yn brysur iawn ar y pryd.

“Roedd angen ocsigen arno am rhyw bedair noson, a tase Gethin wedi gwaethygu byddai angen bod ar ventilator,” meddai.

Bellach yn 14 oed, chafodd Gethin ddim sgil-effeithau ar ol dal RSV yn fabi, yn ôl ei dad.

Beth yw Feirws Syncytiol Anadlol (RSV)?

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n feirws heintus sy'n cylchredeg yn yr hydref a dechrau'r gaeaf.

I'r rhan fwyaf o bobl, symptomau tebyg i annwyd fyddan nhw'n ei brofi, ond mae'n gallu bod yn fwy difrifol i'r rhai mwyaf bregus, fel babanod ifanc, babanod sydd wedi eu geni'n gynnar, a phobol oedrannus.

Mae'n heintio'r rhan fwyaf o blant cyn iddyn nhw droi'n ddwy oed ac yn aml mae pobl yn ei ddal sawl gwaith yn ystod eu bywyd.

Mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn ac mae dros 1,000 o fabanod ifanc yng Nghymru yn cael eu cludo i'r ysbyty gyda'r feirws bob blwyddyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Newid mawr' o ran gwarchod rhag RSV

Ffynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Christopher Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod y brechlyn yn "newid mawr"

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn gyffrous y bydd y brechlyn ar gael.

"I'r rhan fwyaf o bobol, bydd yn teimlo fel annwyd cyffredin, ond yn enwedig i fabanod ifanc iawn, wrth i'w hysgyfaint ddatblygu, mae'n gallu arwain at broblemau anadlu difrifol.

"Mae'r brechlyn, sy'n un newydd, wedi cael ei brofi, ac mae'n ddiogel ac effeithlon. Ac mae'n newid mawr mewn gwirionedd o ran gwarchod niwed rhag RSV".

Pwy sy'n gymwys?

Bydd y brechiadau yn cael eu cynnig i famau beichiog o 28 wythnos ymlaen. Bydd oedolion hefyd sydd wedi cael eu pen-blwydd yn 75 oed yn gymwys.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd yr unigolion yn cael gwahoddiad uniongyrchol, neu'n cael eu cyfeirio gan eu bydwraig yn ystod clinigau cyn geni, o heddiw ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Grimaldi yn fam i fachgen bach sydd bron yn bum mis oed

Doedd Sophie Grimaldi, sy'n fam 31 oed o Gasnewydd, erioed wedi clywed am RSV, na chwaith yn gwybod pa symtomau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

Mae ei phlentyn cyntaf, Evan bron yn 5 mis oed, ac fe ddewisodd hi i dderbyn brechiadau am heintiau eraill tra'r oedd hi'n feichiog.

"Fi'n credu os yw e'n cael ei argymell, dylech chi gymeryd nhw [brechiadau]... Unrhywbeth sy'n helpu'r babi i aros yn iach, a hapus, mae'n beth da.

"Dwi wedi gweld bod rhai pobol eraill sydd ddim cweit mor bositif amdanyn nhw, ond dwi'n meddwl, pawb at y peth y bo," ychwanegodd.

Brechlyn yn 'newyddion gwych'

Ffynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Mair Parry, gallai'r rhaglen frechu leddfu pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn y gaeaf

Yn ôl Dr Mair Parry, pediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, mi all y feirws yn yr achosion mwyaf difrifol arwain at blant ifanc yn "datblygu salwch difrifol fel bronciolitis a niwmonia a chael eu derbyn i'r ysbyty i gael help gydag anadlu a bwydo...

"Bydd y brechlyn hwn yn helpu i leihau'n sylweddol y siawns y bydd plant ifanc – a phobl hŷn – yn mynd yn sâl ac angen dod i'r ysbyty," ychwanegodd.

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Mark Drakeford, gallai'r brechlyn hwn "helpu i leddfu'r rhywfaint o bwysau'r gaeaf a brofir gan y GIG".

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechiad RSV

Mae'r Dr Huw Williams yn disgwyl cyfnod prysur yn ei feddygfa dros fisoedd y gaeaf.

“Rhwng diwedd mis Hydref a Chwefror, fyddai’n gweld dwsinau o bobl bob dydd gyda symptomau tebyg,” meddai.

“Mae’n chwaer i’n feddyg plant yn Llundain ac mae hi’n dweud 'na gyd ma hi’n neud rhwng Tachwedd a Chwefror yw gweld plant gyda RSV.

“Ni gyd yn edrych mlaen i gael y brechiadau mewn i freichiau pobl.”

Pynciau cysylltiedig