Jac Morgan: 'Y peth mwyaf yw stico 'da'n gilydd'
Mae capten Cymru Jac Morgan yn dweud ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r chwaraewyr wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Iwerddon yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Matt Sherratt fydd yng ngofal y tîm ar ôl i Warren Gatland adael ei swydd fel prif hyfforddwr ar ôl colli 14 gêm brawf yn olynol.
Mae Sherratt wedi gwneud wyth newid i'r tîm gollodd yn erbyn yr Eidal bron i bythefnos yn ôl.