Wyth newid i dîm Cymru i wynebu'r Gwyddelod yn y Chwe Gwlad

Ellis Mee (chwith) Max Llewellyn (canol) a Gareth Anscombe yw'r tri cefnwr sy'n dod mewn i ddechrau yn erbyn Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Bydd asgellwr y Scarlets Ellis Mee yn chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd.
Ar ôl cael eu gadael allan o'r garfan gan Warren Gatland, mae'r prif hyfforddwr dros dro Matt Sherratt hefyd wedi dewis y maswr Gareth Anscombe a'r canolwr Max Llewellyn yn y tîm.
Mae Sherratt wedi gwneud wyth newid i'r tîm gollodd yn erbyn yr Eidal bron i bythefnos yn ôl.
Mae Mee, 21, a arwyddodd i'r Scarlets y tymor hwn o Nottingham ac sy'n cymhwyso i Gymru gan fod ei fam o Gasnewydd, yn cymryd lle Josh Adams sydd wedi'i anafu.
Bydd Anscombe, 33, yn dechrau yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers ysbrydoli Cymru i fuddugoliaeth Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd chwe blynedd yn ôl.
Mae'n cael ei ddewis lai nag wythnos ar ôl cael ei alw i mewn i'r garfan gan Sherratt ochr yn ochr â Llewellyn a Jarrod Evans o Harlequins, sydd wedi'i enwi ar y fainc.

Matt Sherratt a'i chwaraewyr newydd yn un o'r sesiynau ymarfer yn gynharach yn yr wythnos
Bydd canolwr Caerloyw, Max Llewellyn, yn dechrau'r gêm fel partner i Ben Thomas yn y canol.
Bydd golwg newydd ar y rheng flaen, gyda Nicky Smith, Elliot Dee, a WillGriff John, fydd yn chwarae ei gêm Chwe Gwlad gyntaf, a'i gêm ryngwladol gyntaf ers dros dair blynedd.
Mae'r cyn-gapten Dafydd Jenkins yn dychwelyd o anaf, tra bod Tommy Reffell yn ymuno â Jac Morgan - sy'n arwain y tîm eto - a Taulupe Faletau yn y rheng ôl.
Yn disgyn o'r 15 sy'n dechrau mae Josh Adams, Eddie James, Nick Tompkins, Gareth Thomas, Evan Lloyd, Henry Thomas, Freddie Thomas a James Botham.
Daeth ail gyfnod Gatland gyda Chymru i ben wedi perfformiad gwael yn Rhufain, yr wythfed gêm Chwe Gwlad i Gymru golli yn olynol.
Mae Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, gan gynnwys y ddwy gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Sherratt, sydd wedi ei benodi fel prif hyfforddwr dros dro ar gyfer tair gêm olaf y Chwe Gwlad eleni.
Mae Cymru dal angen chwarae Iwerddon, yr Alban a Lloegr.
Ar ochr arall y geiniog, mae Iwerddon yn ail yn nhabl detholion y byd, ac yn gobeithio creu hanes trwy ennill tair pencampwriaeth Chwe Gwlad yn olynol.
Maen nhw wedi cael dechrau perffaith ar ôl curo Lloegr a'r Alban, gyda'r cyfle i ennill y Goron Driphlyg trwy guro Cymru'r penwythnos yma.
Gydag Andy Farrell i ffwrdd gyda'r Llewod, mae gan Iwerddon brif hyfforddwr dros dro hefyd yn Simon Easterby, sy'n un o'r ffefrynnau am swydd Cymru.
Tîm Cymru
Murray; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Mee; Anscombe, Tomos Williams; Smith, Dee, John, Rowlands, D Jenkins, Morgan (capt), Reffell, Faletau.
Eilyddion: E Lloyd, G Thomas, H Thomas, Teddy Williams, Wainwright, R Williams, J Evans, J Roberts.
Tîm Iwerddon
Osborne; Hansen, Ringrose, Henshaw, Lowe; S Prendergast, Gibson-Park; Porter, Sheehan (capt), Clarkson; McCarthy, Beirne; O'Mahony, Van der Flier, Conan.
Eilyddion: McCarthy, Boyle, Bealham, Ryan, C Prendergast, Murray, Crowley, Aki.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl