Hannah Brier: 'Dim byd yn cymharu' â chynrychioli Cymru'

Gyda chadarnhad y bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn yr Alban yn 2026, mae athletwraig o Gymru yn dweud fod cynnal y gemau yn "gyfle pwysig i roi Cymru ar y map".

Yn wreiddiol, roedd y gemau i fod i gael eu cynnal yn Awstralia - ond fe dynnwyd y cais yn ôl yn sgil costau uchel.

Ond, daeth cadarnhad swyddogol ddydd Mawrth y bydd y gemau yn cael eu cynnal yn Glasgow, ond hynny ar raddfa lai na'r arfer - ac yn cynnwys llai o gampau.

Dywedodd Hannah Brier - y gwibiwr 100 a 200m - ar raglen Dros Frecwast fod "cynrychioli Prydain yn fraint enfawr", ond "does dim byd yn cwrdd â'r teimlad o roi crys Cymru arno... s'dim byd yn gallu cymharu 'da fe... mae'n amazing".