Gemau'r Gymanwlad yn 'gyfle pwysig i roi Cymru ar y map'

Tîm Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanlwad yn Birmingham yn 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanlwad yn Birmingham yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae athletwraig o Gymru yn dweud fod cynnal Gemau'r Gymanwlad yn "gyfle pwysig i roi Cymru ar y map".

Daw sylwadau Hannah Brier wedi rhywfaint o ansicrwydd am leoliad y gemau nesaf ar ôl i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu 'nôl oherwydd costau uchel.

Ddydd Mawrth, daeth cadarnhad y bydd Gemau'r Gymanwlad yn 2026 yn cael eu cynnal yn Glasgow.

Gan mai dim ond cyfnod byr sydd gan yr Albanwyr i baratoi, bydd y gemau ar raddfa lai na'r arfer - ac yn cynnwys llai o gampau.

Y gred yw y bydd y digwyddiad yn cynnwys rhwng 10 a 13 o gampau, o'i gymharu â 18 o gampau yn 2014.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hannah Brier, a'i brawd, Joe, yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022

Mae Hannah Brier - y gwibiwr 100 a 200m - yn un sydd â'i golygon ar gystadlu yn y gemau ymhen dwy flynedd.

Y tro diwethaf i'r gemau ymweld â Glasgow yn 2014, oedd y tro cyntaf iddi gystadlu yn y gemau a hithau ond yn 16 oed ar y pryd.

Roedd hi hefyd yn rhan o dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022.

Dywedodd mai Gemau'r Gymanwlad yw'r "unig siawns s'da pobl sy'n neud athletau yng Nghymru i gystadlu dros Gymru mewn pencampwriaeth" o'r fath.

Disgrifiad,

Yn sgil yr ansicrwydd diweddar ynglŷn â lleoliad y gemau, dywedodd Ms Brier fod y cyfnod yma wedi achosi tipyn o boen meddwl.

"O'n i methu neud dim byd i 'neud gwahaniaeth, jyst gobeithio fod y gemau yn mynd yn eu blaen".

Er iddi gydnabod fod "cynrychioli Prydain yn fraint enfawr" dywedodd "does dim byd yn cwrdd â'r teimlad o roi crys Cymru arno... s'dim byd yn gallu cymharu 'da fe... mae'n amazing".

"Dwi wedi cael fy nghodi lan yng Nghymru, dwi'n Gymraes a dwi mor browd o hwnna".

Digwyddiad ar raddfa lai

Dywedodd llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, Chris Jenkins, y bydd Glasgow yn cynnal digwyddiad "o'r radd flaenaf" gan osod safon ar gyfer y dyfodol.

Nododd y byddai cyllid ychwanegol gan Awstralia yn cefnogi'r cais i ddod â'r gemau i'r Alban.

Roedd yn mynnu na fyddai'r gemau angen gwariant gan lywodraethau'r Alban neu'r DU, ac yn hytrach, byddai'n cael ei ariannu gan fuddsoddiad o £100m gan Ffederasiwn y gemau Olympaidd, yn ogystal ag incwm preifat.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Gemau'r Gymanwlad Awstralia gynnig "pontio unrhyw ddiffyg ariannol".

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig £2.3m i helpu gyda chostau iechyd a diogelwch gan alw ar Lywodraeth yr Alban i wneud yr un peth.

Pynciau cysylltiedig