'Mor barod i gamu o 'na' - hanes marathon arbennig merch o Fôn

Mae merch o Fôn wedi rhannu ei phrofiad o ddod o fewn trwch blewyn i roi gorau i redeg marathon Llundain, cyn i garedigrwydd dieithryn ei hannog i ddyfalbarhau.

Roedd Erin Fflur Grieves-Owen yn rhedeg marathon am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf ac yn codi arian i Ysbyty Walton, Lerpwl.

Dywedodd mai "sioc" oedd derbyn lle yn y ras ond ei bod wedi penderfynu "mynd amdani" er ei bod yn "casáu rhedeg".

Ar ôl i Erin gael trafferthion yn ystod y ras, fe wnaeth dieithryn gynnig help iddi gan sicrhau ei bod yn parhau i fynd tan y llinell derfyn, ond fe ddiflannodd y dyn cyn iddi allu diolch iddo.

Yn dilyn cyhoeddi neges ar Facebook - a gyrhaeddodd dros 14,000 o bobl - mae Erin bellach wedi dod o hyd iddo ac wedi gallu rhannu ei gwerthfawrogiad.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd: "O'n i mor barod i gamu o 'na a deud dim blwyddyn yma.

"Ond wedyn dyma 'na fachgen yn taro mewn i fi a fy ffrindiau a 'naeth bob dim newid o fan 'na."