Caredigrwydd dieithryn yn gwthio merch o Fôn i gwblhau marathon

Disgrifiad,

Roedd Erin yn codi arian tuag at Ysbyty Walton er mwyn "rhoi yn ôl iddyn nhw" wedi iddi orfod ymweld â'r ysbyty sawl tro yn y blynyddoedd diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae merch o Fôn wedi rhannu ei phrofiad o ddod o fewn trwch blewyn i roi gorau i redeg marathon Llundain, cyn i garedigrwydd dieithryn ei hannog i ddyfalbarhau.

Roedd Erin Fflur Grieves-Owen yn rhedeg marathon am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf ac yn codi arian i Ysbyty Walton, Lerpwl.

Dywedodd mai "sioc" oedd derbyn lle yn y ras ond ei bod wedi penderfynu "mynd amdani" er ei bod yn "casáu rhedeg".

Ar ôl i Erin gael trafferthion yn ystod y ras, fe wnaeth dieithryn gynnig help iddi gan sicrhau ei bod yn parhau i fynd tan y llinell derfyn, ond fe ddiflannodd y dyn cyn iddi allu diolch iddo.

Yn dilyn cyhoeddi neges ar Facebook - a gyrhaeddodd dros 14,000 o bobl - mae Erin bellach wedi dod o hyd iddo ac wedi gallu rhannu ei gwerthfawrogiad.

Erin a'it theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i Erin (siwmper lwyd) gymryd rhan mewn marathon

'Nôl ym mis Ebrill 2024 fe wnaeth Erin Fflur Grieves-Owen benderfynu ceisio am le ym Marathon Llundain.

"Nes i'm meddwl dim byd ohono fo ac wedyn ges i neges fis Medi yn dweud 'llongyfarchiadau' a doedd dim syniad gen i be' oedd o," meddai.

Ar ôl mynd i edrych ar ei negeseuon e-bost a gweld ei bod wedi cael lle, dywedodd ei bod yn "shocked".

"Dwi erioed wedi rhedeg o'r blaen ac yn berson sy'n casáu rhedeg, ond ma' hwn yn rhywbeth ma' pobl yn aros blynyddoedd i gael - so dyma fi'n penderfynu mynd amdani."

Penderfynodd Erin godi arian at Ysbyty Walton yn Lerpwl, sy'n canolbwyntio ar niwroleg, am ei bod wedi ymweld â'r ysbyty yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwethaf.

"Dwi wedi bod yn mynd yna dipyn dros y tair blynedd diwethaf ac eisiau rhoi yn ôl iddyn nhw," esboniodd.

'No way alla i wneud hyn'

Dywedodd fod ganddi amheuon mawr cyn cychwyn y ras, yn enwedig gan fod y tywydd mor boeth.

"Roedd hi'n ofnadwy o boeth, tua 23 gradd a miloedd o bobl ar ben ei gilydd mewn dinas."

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, esboniodd sut y cyrhaeddodd hanner ffordd drwy'r ras a dechrau ystyried rhoi'r ffidl yn y to.

"Dwi'n cofio meddwl o'r 20 munud cyntaf, no way o'n i am allu gorffen hyn.

"O'n ni'n meddwl bysa pob dim yn newid pan fyswn i'n cyrraedd Tower Bridge, ond mae mor anodd disgrifio'r teimlad... sylweddoli bod gen ti dal gymaint â hynny ar ôl i fynd.

"O'n i mor barod i gamu o 'na a deud dim blwyddyn yma.

"Ond wedyn dyma 'na fachgen yn taro mewn i fi a fy ffrindiau a 'naeth bob dim newid o fan 'na."

Derek yn rhedeg Ffynhonnell y llun, VICTA UK
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Derek fu'n help Erin yn ystod y ras

Dywedodd i'r dyn ei helpu i ddyfalbarhau yn ystod ail hanner y marathon.

"Nath o just torri pob dim lawr i fi, nath o'm gadael eiliad i fi stopio," meddai Erin.

"O'dd o'n hollol lyfli, nath o stopio yn y siop i nol bwyd a diod i fi."

Ond, dywedodd iddi golli golwg arno ar ol tua 21 milltir o'r ras, ac felly fe wnaeth hi golli'r cyfle i ddiolch iddo.

Yn dilyn y ras, fe benderfynodd rannu neges ar Facebook er mwyn ceisio cael gafael arno.

"O fewn awr roedd yna 1,000 o responses a rhywun wedi ffeindio fo a nathon ni lwyddo i gysylltu," esboniodd.

Gyda'r neges wedi cael cymaint o ymatebion, fel ffordd o ddiolch iddo fe wnaeth Erin rannu dolen codi arian y dyn yng nghanol y sylwadau ac mae bellach wedi codi £6,000.

"Mae mor surreal fod pob dim wedi chwythu fyny, do'n ni ddim yn meddwl byse neb yn gweld a just gobeithio byse'r elusen yn ei weld."

'Wedi bod yn anhygoel'

Wrth siarad â BBC Cymru fore Gwener, dywedodd Derek Potter, y dyn a helpodd Erin: "Fe wnes i ei gadael ar filltir 22 gyda'i theulu ac roeddwn yn gobeithio y byddai'n cyrraedd y diwedd.

"Fe wnes i wireddu fy mreuddwyd y llynedd wrth redeg y marathon (am y tro cyntaf) ac roeddwn i eisiau'r un fath i Erin.

"Yna nos Fawrth ro'n i ar y cyfryngau cymdeithasol a meddyliais 'wow' pan welais i fod Erin wedi gwneud cais i fod yn ffrind."

Ychwanegodd Derek: "Mae wedi bod yn anhygoel. Do'n ni byth yn disgwyl hyn."

Pynciau cysylltiedig